Pont y Borth i gau yn llwyr am gyfnod dros y penwythnos er mwyn ei diogelu
Bydd Pont y Borth rhwng Ynys Môn a'r tir mawr yn cael ei chau'n llwyr i gerbydau o brynhawn Gwener tan nos Sadwrn, er mwyn cynnal gwaith i'w diogelu.
Mae un lôn wedi bod ar gau ar y bont rhwng 10.00 a 18.00 ers dydd Mercher, gyda goleuadau traffig yn rheoli llif y cerbydau.
Ond bydd y bont ar gau yn llwyr i gerbydau rhwng 14.00 ddydd Gwener a 18.00 ddydd Sadwrn, gyda cherbydau yn cael eu dargyfeirio dros Bont Britannia.
Bydd modd i gerddwyr a beicwyr oddi ar eu beiciau groesi'r bont yn ystod y cyfnod y bydd ar gau.
Yn dilyn y gwaith dros y penwythnos, bydd un lôn yn parhau ar gau yn ddyddiol tan ddydd Gwener 22 Mai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cau'r bont i "gwblhau gwaith i fynd i’r afael â risg diogelwch uniongyrchol gan geblau cyfathrebu anniogel o dan y bont, ac i roi mesurau ar waith i sicrhau diogelwch y gweithlu ar y bont".
"Mae'n rhaid diogelu'r ceblau, sy'n darparu cysylltiadau cyfathrebu ag Ynys Môn ac Iwerddon, cyn y gall gwaith pellach barhau," ychwanegodd.