Treforys: Cyhuddo dau ddyn arall yn dilyn 'digwyddiad difrifol' wythnos diwethaf

ABERTAWE

Mae trydydd a phedwerydd dyn wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i ddigwyddiad difrifol yn ymwneud a dryll yn Abertawe ar ddydd Gwener 6 Tachwedd.

Mae James Gilheany, 49 oed, o Lansamlet, wedi cael ei gyhuddo o feddu ar ddryll gyda'r bwriad o achosi ofn, ac o ymosod drwy guro.

Mae Pio Gilheany, 21 oed, o Dreforys, wedi cael ei gyhuddo o achosi affräe a bod ag arf yn ei feddiant.

Bydd y ddau ddyn yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe fore dydd Sadwrn, ar ôl cael eu cadw yn y ddalfa.

Ddydd Mawrth cafodd dau ddyn arall eu harestio ôl i'r heddlu ddatgan "digwyddiad difrifol" ar y pryd.

Dywedodd Heddlu De Cymru nos Fawrth fod y dynion, sy’n 24 a 42 oed, wedi cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae dyn 41 oed a bachgen 16 oed, a gafodd eu harestio’n flaenorol mewn cysylltiad â’r digwyddiad, wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Fe wnaeth Thomas Gilheaney, 29 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun wedi’i gyhuddo o affräe a bod ag arf yn ei feddiant.

Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa nes iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ym mis Rhagfyr.

Mae ditectifs o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad a ddigwyddodd am tua 16.15 ddydd Gwener.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw, yn enwedig modurwyr a oedd yn teithio ar hyd Heol Clase, Heol Samlet, Ffordd Goedwig Uchaf neu Ffordd y Cwm rhwng 16.15 a 16.30 y diwrnod hwnnw.

Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a deithiodd ar hyd Ffordd y Cwm rhwng hanner dydd a 13.30.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.