Toriad trydan yn taro talp o'r gogledd

Llun: Chris Ison/PA Wire
Peilonau trydan. Llun: Chris Ison/PA Wire

Cafodd rhannau o Wrecsam eu taro gan doriad trydan sylweddol ac annisgwyl fore Sadwrn a effeithiodd ar dros 220 o ardaloedd cod post.

Yn ôl SP Energy Networks, ardaloedd â chodau post yn dechrau ag LL11, LL12 ac LL13 gafodd eu heffeithio. Cafodd y cyflenwad ei adfer wedi rhai oriau.

Parc Caia, ardal breswyl boblog i’r dwyrain o ganol y ddinas, oedd wedi’i tharo waethaf, yn ôl y wasg leol.

Cafodd y toriad ei nodi am 09:10, ac roedd peiriannydd ar y safle erbyn 10:05.

Roedd SP Energy Networks wedi rhybuddio y gallai’r gwaith bara tan 15:30 gan fod eu hymchwiliadau’n parhau.

Ond mae’r cwmni bellach wedi cadarnhau bod y trydan wedi dod yn ôl am 11:23.

Llun: PA

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.