‘Torcalon’ Amy Dowden ar ôl gadael Strictly yn y bleidlais gyntaf
Mae Amy Dowden wedi dweud ei bod hi’n “gyfarwydd iawn â thorcalon” ar ôl gadael Strictly Come Dancing yn y bleidlais gyntaf.
Fe gollodd hi a’i phartner Chris Appleton eu lle yn y gystadleuaeth nos Sul, a nhw oedd y cyntaf o’r 15 o barau i adael y gyfres.
Cafodd Amy ddiagnosis o ganser y fron dair blynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi cael dwy lawdriniaeth mastectomi a chemotherapi.
Ar ôl bod y cyntaf i adael y gystadleuaeth, dywedodd ei bod yn teimlo nad oedd “lwc ar fy ochr i”.
“Yn anffodus, rydw i’n gyfarwydd iawn â thorcalon,” meddai mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mewn neges at Chris Appleton, dywedodd: “Mae gweld dy daith ar Strictly yn dod i ben yn emosiynol, ond nid y canlyniad fydda i’n ei drysori fwyaf.
“Y cyfeillgarwch, yr atgofion a’r eiliadau arbennig rydyn ni wedi’u rhannu ar hyd y ffordd fydd yn aros gyda fi.”
Ychwanegodd: “Cariad mawr gan dy dywysoges Gymreig, fel rwyt ti’n fy ngalw i.”
Wrth ffarwelio, dywedodd Chris: “Mae wedi bod yn gorwynt o emosiynau.
“Dw i’n 43 oed ac wedi dod yn dda am yr hyn dw i’n ei wneud, sef trin gwallt. Roedd gwneud rhywbeth fel hyn yn teimlo mor anghyfarwydd i mi.”
Mae’r actores o Abertawe Melanie Walters, sy’n adnabyddus am ei rôl yn Gavin and Stacey, yn parhau yn y gystadleuaeth ar ôl dod ar waelod y tabl o ran sgoriau’r beirniaid ddydd Sadwrn.
