Teyrnged teulu i ferch naw oed 'brydferth' a fu farw yn Yr Alban
Mae teulu merch naw oed a fu farw ar ôl cael ei chanfod gydag anafiadau difrifol ar ystâd ddiwydiannol yn Yr Alban wedi rhoi teyrnged iddi hi.
Mae Heddlu'r Alban wedi cadarnhau mai Minnie Merriman oedd enw'r ferch.
Mae Christopher Rice, 35, wedi ymddangos gerbron Llys Siryf Forfar Sheriff wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Cafodd y ferch ei chanfod gydag anafiadau difrifol ar yr ystâd ddiwydiannol yn nhref Arbroath, cyn cael ei chludo i Ysbyty Ninewells yn Dundee, ble y bu farw’n ddiweddarach.
Mae Heddlu’r Alban wedi dweud bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un “amheus”. Nid yw’r heddlu’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Y gred yw bod y ferch wedi bod yn gwersylla yn yr ardal gyda’i theulu, sydd bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd datganiad gan ei theulu ddydd Mercher: “Rydym wedi ein dinistrio ar ôl colli ein Minnie Moo gwbl anghoel, prydferth, dewr, yr oedd pawb yn ei charu.
“Mae’r teulu’n gofyn bod ein preifatrwydd yn cael ei barchu yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.”
Dywedodd Mike Ness o Heddlu’r Alban: “Mae’n meddyliau’n parhau gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau yma.
“Bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal tra bod ein hymholiadau’n parhau.”
Mae Heddlu Gorllewin Sir Efrog yn cefnogi ymchwiliad Heddlu’r Alban.