Arestio dynes ar ôl i bedwar dyn gael eu trywanu yng nghanol Llundain
Mae dynes wedi cael ei harestio ar ôl i bedwar dyn gael eu trywanu yn Covent Garden yng nghanol Llundain, yn ôl Heddlu'r Met.
Cafodd y pedwar dyn eu cludo i ganolfan drawma fawr yn dilyn y digwyddiad ar Stryd Endell brynhawn Mercher.
Dywedodd Heddlu'r Met fod y dynion, sy'n 34, 39, 42 a 52 oed, wedi'u canfod gydag anafiadau trywanu.
Ni roddodd yr heddlu ragor o fanylion am ddifrifoldeb eu hanafiadau.
Cafodd dynes, sy'n 47 oed, ei harestio ar amheuaeth o feddu ar arf ymosodol ac o ymosod.
Mae hi wedi cael ei chludo i'r ddalfa.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Llundain: "Fe wnaethom anfon criw ambiwlans, parafeddyg mewn car ymateb cyflym a swyddog ymateb i ddigwyddiadau. Fe wnaethom hefyd anfon Ambiwlans Awyr Llundain.
"Fe wnaethom drin pedwar claf yn y fan a'r lle cyn mynd â nhw i gyd ar frys i ganolfan drawma fawr."
Yn gynharach, roedd Heddlu'r Met wedi dweud bod tri pherson wedi cael eu trywanu.
Ond mewn datganiad diweddarach, cadarnhaodd y llu fod pedwar dyn wedi'u canfod gydag anafiadau trywanu.
Llun: PA