Caerdydd: Dyn wedi ei gyhuddo ar ôl i fenyw 31 oed farw wedi adroddiadau o ymosod
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo ar ôl i fenyw 31 oed farw yn yr ysbyty wedi i’r heddlu gael eu galw i adroddiadau o ymosodiad yng Nghaerdydd.
Cafodd dwy fenyw eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar ôl y digwyddiad ar Ffordd Langham, Lecwydd, yng Nghaerdydd, nos Sadwrn 1 Awst.
Bu farw un ohonynt, menyw 31 oed o’r Barri, yn yr ysbyty. Mae’r ail fenyw wedi cael ei rhyddhau.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i adroddiadau bod rhywun wedi ymosod ar y menywod mewn eiddo.
Cafodd Daniel McCarthy, 40 oed o Lecwydd, ei arestio ac mae bellach wedi’i gyhuddo o ddau achos o ymosod.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o fethu â stopio cerbyd pan ofynnodd yr heddlu iddo wneud hynny.
Roedd disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod ymholiadau’n parhau.