Teyrnged teulu i daid 'caredig a gofalgar' a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu taid "caredig a gofalgar" a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Brian Mark Gough, a oedd yn 64 oed ac yn gyrru Vauxhall Astra, mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Caerffili, Ystrad Mynach ar 29 Gorffennaf.
Roedd yn cael ei adnabod gan ei deulu a'i ffrindiau fel Mark, ac roedd yn dod o Gaerffili.
Cafodd Heddlu Gwent, Gasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru eu galw i ymateb i'r digwyddiad.
Ond er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Mr Gough yn y fan a'r lle.
Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu, sy'n parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol: "Roedd Mark yn ŵr cariadus i Lynda ers 39 mlynedd, yn dad i Sophie ac Amy, yn daid, yn fab ac yn frawd, ac roedd yn cael ei garu gan ei deulu a'i ffrindiau i gyd.
"Roedd ei gariad at fywyd yn amlwg bob dydd.
"Roedd yn ddyn caredig a gofalgar iawn, a oedd wrth ei fodd yn chwarae golff, yn dilyn tîm hoci iâ Cardiff Devils, yn hoffi tynnu coes, yn mwynhau cerddoriaeth a bwyd, ac yn trysori pob eiliad a dreuliodd gyda'i wyres, a oedd yn golygu'r byd iddo.
"Roedd mor falch o'i ddwy ferch a'r cyfan y maen nhw wedi'i gyflawni yn eu bywydau."
Ychwanegodd y teulu ei fod yn "cael ei garu gymaint a bydd colled fawr ar ei ôl".
"Rydyn ni'n gwybod ei fod wedi mynd i le gwell, i ymuno â'i dad annwyl, Brian, a gollon ni ddwy flynedd yn ôl.
"Hoffai teulu Mark ddiolch i'r holl wasanaethau brys ac aelodau'r cyhoedd a fu'n helpu yn y fan a'r lle.
"Mae ein calonnau i gyd wedi torri a byddwn yn dy golli gymaint, ond rydyn ni'n gwybod dy fod ti'n chwarae golff yn y nen."