'Digon 'di digon': Diwylliant a chwaraeon Cymru mewn 'sefyllfa argyfyngus'
'Digon 'di digon': Diwylliant a chwaraeon Cymru mewn 'sefyllfa argyfyngus'
Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Ddiwylliant a Chwaraeon wedi dweud fod y ddau faes mewn “sefyllfa argyfyngus”, wrth i Lywodraeth Cymru lansio sgwrs gyda'r bwriad o greu strategaeth diwylliant newydd i Gymru.
Yn ôl y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan AS, bydd y strategaeth yn “cyfuno chwaraeon a’r diwydiannau creadigol - pethau oedd ar goll o’r strategaeth flaenorol.”
Wrth ymateb i honiadau fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ôl ymgynghoriad heb weithredu, dywedodd Heledd Fychan fod “angen gwneud y ddau.”
Ychwanegodd fod angen “gwneud y cynllunio hir dymor doedd Llafur ddim yn ei wneud a dyna pam yr ydyn ni mewn sefyllfa mor argyfyngus o ran diwylliant a chwaraeon yng Nghymru.
“Yr hyn rydyn ni wedi ei weld dros y ddegawd diwethaf ‘ma ydy llai o gyfleoedd i bobl i ymgysylltu efo diwylliant a chwaraeon - gweld pethau fel pyllau nofio lleol yn cau, llyfrgelloedd lleol yn cau."
Ychwanegodd: “Digon ‘di digon, ‘da ni angen gweld dyfodol i’r math yma o bethau pwysig yn ein cymunedau ni.”
Amgueddfa Cymru
Wrth siarad gyda Newyddion S4C am sefyllfa Amgueddfa Cymru, dywedodd mai’r dasg oedd i gydweithio gydag Amgueddfa Cymru i ddeall union effaith y toriadau ar y sefydliad.
Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru'r posibilrwydd y bydd yn rhaid iddynt gau ei safle yng Nghaerdydd am hyd at bedair blynedd er mwyn neud gwelliannau i’r adeilad.
Dywedodd y Gweinidog fod gan Amgueddfa Cymru "rôl allweddol bwysig o ran gwarchod ein casgliadau cenedlaethol ni - nid eu casgliadau nhw ‘mo honnyn nhw, pobl Cymru bia’r casgliadau hynny.
“Os ydyn nhw rŵan mewn adeiladau sydd ddim yn addas i bwrpas, lle mae ‘na risg i’r casgliadau cenedlaethol, yna mae ‘na gyfrifoldeb arnan ni fel Llywodraeth i gydweithio efo nhw a sicrhau ein bod ni’n deall be ‘di’r heriau a sut ‘da ni yn mynd i gael datrysiadau.”
Ymateb Llafur Cymru
Dywedodd Aelod Cynulliad Mike Hedges, Llefarydd Llafur Cymru dros Ddiwylliant a Chwaraeon:
"Mae methiant Plaid Cymru i gymryd cyfrifoldeb yn peri pryder dwfn. Unwaith yn rhagor, gwelwn Lywodraeth Plaid Cymru’n oedi gweithredu drwy ddatblygu strategaeth arall. Mae diffyg unrhyw weithredu go iawn yn syfrdanol.
"Rwy'n poeni bod Plaid Cymru’n ymddangos fel pe na baent yn barod ar gyfer llywodraeth ac nad oes ganddynt weledigaeth glir a manwl ar unrhyw faes o fywyd Cymreig."