Teyrnged teulu i ddyn 30 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad gyda bws

Josh Roberts
Josh Roberts

Mae teulu dyn 30 oed o Sir Fynwy, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic trydan a bws, wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Josh Roberts yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A48 yn nhref Cas-gwent ar ddydd Mawrth 7 Gorffennaf.

Fe wnaeth Mr Roberts, a oedd yn teithio ar y beic trydan, ddioddef anafiadau difrifol a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Roberts ei fod wedi "cyffwrdd â chalonnau cymaint o bobl".

"Mae calon ein teulu wedi ei chwalu yn sgil marwolaeth Josh, a oedd y tad, mab, ŵyr, brawd ac ewyrth mwyaf anhygoel," meddai ei deulu.

"Roedd pawb a oedd yn adnabod Josh yn gyfarwydd â’i wên ddrygionus, ac roedd yn cael ei adnabod fel loveable rogue.

"Fe wnaeth gyffwrdd â chalonnau cymaint o bobl ac roedd cymaint o bobl yn ei garu."

Ychwanegodd y teulu eu bod yn dymuno diolch i Heddlu Gwent a'r Gwasanaeth Ambiwlans, a gafodd eu galw i'r digwyddiad.

"Fel teulu rydym eisiau diolch i bawb a oedd mor anhunanol ar safle’r gwrthdrawiad ac a wnaeth bopeth o fewn eu gallu i helpu," meddai'r teulu.

"Bydd darn ohonom ni wedi torri am byth, ond hedfana’n uchel Josh, welwn ni ti cyn bo hir."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.