Gorseinon: Pencampwr cicbocsio sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio yn wynebu achos llys

Gorseinon

Bydd pencampwr cicbocsio yn wynebu achos llys y flwyddyn nesaf, wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd.

Ymddangosodd Tyler Ford gerbron Llys y Goron Abertawe wedi’i gyhuddo o ladd Ceiran Evans, 18 oed, o Gorseinon.

Mae’r dyn 18 oed, sydd wedi bod yn bencampwr cicbocsio’r byd naw gwaith, hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ail berson.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â gwrthdrawiad rhwng car a beic modur oddi ar y ffordd ar Heol Pen Cae Crwn, Gorseinon, ar 9 Gorffennaf.

Dim ond i gadarnhau ei enw y siaradodd y diffynnydd, o Dreforys, Abertawe, yn ystod y gwrandawiad byr. Ni ofynnwyd iddo gyflwyno ple.

Fe bennodd y Barnwr Paul Thomas wrandawiad ple a rheoli achos ar gyfer 29 Medi. Dywedodd y bydd achos llys pythefnos o hyd yn dechrau ar 11 Ionawr y flwyddyn nesaf.

Wrth gadw Ford yn y ddalfa, dywedodd y barnwr: “Bydd y gwrandawiad nesaf ar 29 Medi, a bydd y diffynnydd wrth gwrs yn aros yn y ddalfa.”

Rhoddodd teulu Mr Evans deyrnged iddo ddydd Llun.

Fe ddywedon nhw: “Roedd Ceiran yn cael ei garu’n fwy nag y gall unrhyw eiriau ei fynegi, a bydd colled ar ei ôl bob dydd.

“Roedd ei galon garedig, ei synnwyr digrifwch direidus, ei natur gariadus a’i wên olygus yn dod â chymaint o lawenydd i bawb oedd yn ei adnabod.

“Fe fydd yn fabi bach annwyl i ni am byth, yn cael ei garu bob amser, ei gofio bob amser, a byth yn cael ei anghofio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.