Achos llys i dditectif sydd wedi ei gyhuddo o dynnu lluniau i fyny sgert merch yn ei harddegau

Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyddiad achos llys wedi cael ei bennu ar gyfer ditectif sydd wedi ei gyhuddo o dynnu lluniau i fyny sgert merch yn ei harddegau.

Fe ymddangosodd y Ditectif Gwnstabl Lee Harshey-Jones, 45 oed, yn Llys y Goron Caer ddydd Mawrth i wynebu’r cyhuddiad o voyeuriaeth (voyeurism).

Cafodd ei arestio fis diwethaf mewn cysylltiad â’r digwyddiad honedig ym Mae Colwyn, Conwy, ac fe gafodd ei wahardd o’i swydd dros dro yn ddiweddarach gan ei gyflogwyr, Heddlu Gogledd Cymru.

Mae Harshey-Jones hefyd wedi ei gyhuddo o geisio newid cwrs cyfiawnder, ac o ddefnyddio pwerau a breintiau’r heddlu mewn ffordd amhriodol.

Ni blediodd i'r troseddau, ac fe gafodd dyddiad gwrandawiad dros dro ei bennu ar gyfer 16 Awst 2027.

Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol nes bod gwrandawiad rheoli achos yn yr un llys ar 30 Medi.

Harshey-Jones oedd prif ymchwilydd achos Ethan Ives-Griffiths, a gafodd ei lofruddio gan ei nain a'i daid, Michael a Kerry Ives, yn Sir y Fflint yn 2021.

Llun: Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.