Llywodraeth Cymru wedi colli pleidlais dyngedfennol ar eu cynlluniau gwariant

Rhun ap Iorwerth

Nid yw Llywodraeth Plaid Cymru wedi sicrhau digon o bleidleisiau i fwrw ymlaen â'u cynlluniau gwariant yn eu cyllideb atodol.  

Roedd Llafur a Phlaid Cymru wedi anghytuno ar gynnwys y gylldieb atodol, sef y gwario ychwanegol mae'r llywodraeth yn awyddus i'w wneud er mwyn bwrw mlaen â'i blaenoriaethau.  

Heb fwyafrif yn y Senedd, dyma oedd yr her fwyaf i'r llywodraeth newydd ers dod i rym ym mis Mai.

Methodd eu hymdrech olaf i geisio perswadio aelodau Llafur i gefnogi eu cynlluniau, gyda'r arweinydd Llafur dros dro, Ken Skates yn dweud bod angen mwy o arian tuag at addysg anghenion ychwanegol.

Mae Llafur eisiau £100 miliwn ar unwaith, gan ddadlau bod ysgolion angen yr arian nawr.

Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw eisiau gwario mwy ar bethau fel rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd, gofal plant ac atgyweirio ysgolion.

Roedd Reform UK a’r Ceidwadwyr eisoes wedi dweud na fydden nhw’n cefnogi’r gyllideb, ac roedd unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd, Jane Dodds hefyd wedi datgan na fydd hi'n cefnogi'r cynlluniau. 

Dywedodd y Blaid Werdd y byddan nhw'n pleidleisio gyda'r Llywodraeth, ond heb gefnogaeth Llafur nid oedd gan Lywodraeth Cymru ddigon o gefnogaeth.

Trafodaethau aflwyddiannus

Daeth y bleidlais wedi diwrnod o drafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru i geisio dod i gytundeb. 

Brynhawn dydd Llun, fe wnaeth y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, anfon llythyr at arweinydd dros dro y Blaid Lafur, Ken Skates.

Dywedodd y byddai'r llywodraeth yn barod i fuddsoddi £120m yn uniongyrchol mewn darpariaeth addysg anghenion ychwanegol (ADY) dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd y byddai hynny'n sicrhau “bod darpariaeth ADY yn cael ei chryfhau'n barhaus a bod y cynaliadwyedd sydd ei angen yn cael ei feithrin”.

“Fodd bynnag, er mwyn bod yn dryloyw, rhaid i mi bwysleisio na fydd cyllid ychwanegol ar gyfer ADY yn bosibl heb i'r gyllideb atodol gael ei phasio,” ychwanegodd Rhun ap Iorwerth.

Roedd Llafur Cymru wedi dweud o'r blaen eu bod nhw am weld £100m yn cael ei wario eleni ar ddarpariaeth ADY. Roedden nhw eisoes wedi gwrthod cynnig o £80m dros ddwy flynedd.

Cyn colli'r bleidlais, roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud bod modd iddyn nhw wario £300 miliwn ar gyfer blaenoriaethau Plaid Cymru, ond y bydd yn rhaid iddyn nhw ddychwelyd i'r Senedd a chynnal pleidlais arall ar y gyllideb atodol cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Yn ôl y llywodraeth, maen nhw'n hyderus bod modd ennill y bleidlais honno.  

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.