Pwyllgor yn derbyn argymhellion adroddiad diogelu Cyngor Gwynedd
Mae Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Cyngor Gwynedd wedi derbyn argymhellion adroddiad diweddaraf yr awdurdod ar ddiogelu.
Cafodd yr ymchwiliad i drefniadau diogelu yn ysgolion y sir ei gynnal dros gyfnod o flwyddyn yn dilyn achos Neil Foden.
Cafodd y pedoffeil a'r cyn-bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ei garcharu am 17 o flynyddoedd yn 2024 am gam-drin merched.
Wrth gyhoeddi’r adroddiad yr wythnos diwethaf, dywedodd Cyngor Gwynedd mai bwriad y gwaith ymchwil oedd cael "gwell dealltwriaeth o sut mae trefniadau cyfredol diogelu mewn ysgolion yn gweithio'n ymarferol yng Ngwynedd ac adnabod cyfleoedd i'w cryfhau".
Ond roedd y gyfreithwraig Katherine Yates, sy’n cynrychioli nifer o bobl sy’n dweud eu bod yn ddioddefwyr Foden, yn feirniadol iawn o’r adroddiad, gan ddweud ei fod yn “ymddangos yn wan” ac yn cynnwys argymhellion yn hytrach na chamau gweithredu pendant.
Ddydd Mawrth, cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi'r cyngor, lle'r oedd aelodau'n ystyried a ddylid derbyn yr argymhellion.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, pwysleisiodd cadeirydd yr ymchwiliad, y Cynghorydd Cai Larsen, nad oedd gwaith y panel yn ailystyried achos Neil Foden na chanfyddiadau’r Adolygiad Ymarfer Plant (CPR), ond yn asesu a oedd trefniadau diogelu ysgolion y sir yn addas.
“Ddim ei rôl o oedd ail-ysgrifennu be’ gododd yn y CPR, y cwestiwn gafodd ei osod gerbron y panel oedd a ydi trefniadau diogelu yn ysgolion y sir yn briodol ac yn gweithredu’n gyson,” meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Larsen fod y panel wedi casglu tystiolaeth a gwneud argymhellion i’r Cabinet ac, mewn rhai achosion, i Lywodraeth Cymru, fel rhan o waith ehangach y cyngor yn dilyn y CPR.
Ychwanegodd: “Yr hyn ddaeth yn glir i’r panel oedd bod llawer o waith da yn digwydd yn ysgolion Gwynedd.
“Ond daeth yn glir hefyd nad ydi cael polisïau da ar bapur ynddo’i hun yn ddigonol - mae angen sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n gyson, yn bob ysgol, gan bob aelod o staff ac ar bob lefel o sefydliad.”
Ymateb i feirniadaeth
Cyfeiriodd y Cynghorydd Larsen hefyd at feirniadaeth Ms Yates o’r adroddiad, gan ddweud ei fod am ymateb i rai o’r pwyntiau er mwyn sicrhau bod yr adroddiad “yn cael ei gymryd o ddifrif”.
“Mae hi wedi cynrychioli rhai o ddioddefwyr Foden ers blynyddoedd, ac mae’n gwbl ddealladwy ei bod yn awyddus i weld newid cyflym, cadarn ac ystyrlon,” meddai.
“Dwi’n credu bod pawb yn y siambr hwn yn rhannu’r un nod i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd plant yng Ngwynedd yn profi methiannau tebyg i’r hyn a welwyd yn Friars eto.”
Roedd Ms Yates wedi dweud bod yr adroddiad yn codi cwestiynau am rôl llywodraethwyr ysgolion mewn materion diogelu.
Yn ôl yr adroddiad, roedd rhai llywodraethwyr yn ansicr o hyd am le y dylid troi os oes pryderon diogelu yn codi am benaethiaid ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Larsen y bydd hwnnw’n “bwynt y bydd y panel yn ei ystyried yn ofalus”.
“Dyna pam mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion i gryfhau hyfforddiant llywodraethwyr, egluro cyfrifoldebau a galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar y fframwaith cenedlaethol,” meddai.
“Yn hynny o beth, efallai mai’r gwahaniaeth yma ydi pa mor bell y dylai’r argymhellion yma fynd yn hytrach na’r egwyddor ei hun.”
Dywedodd y Cynghorydd Jina Gwyrfai ei bod wedi ei “dychryn” wrth ddarllen yr argymhelliad y dylid "ystyried os ddylai’r Adran Addysg fod yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod pob/unrhyw athro llanw wedi derbyn yr hyfforddiant priodol ac wedi derbyn gwiriad DBS".
“Dwi’n siŵr bod 'na rôl i’r adran addysg, yn lle disgwyl i’r pennaeth roi hyfforddiant,” meddai.
“Fyswn i wedi hoffi gweld cryfhau awdurdod yr adran addysg, nid fel bwli ond fel arweinydd, fel ymbarel, fel cydlynydd.”
Wrth ymateb, dywedodd Pennaeth Addysg y cyngor, Gwern ap Rhisiart, mai ysgolion yn hytrach na'r awdurdod addysg sy'n cyflogi athrawon llanw, ac mai cyfrifoldeb yr ysgol yw sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant diogelu priodol.
Dywedodd fod y cyngor yn cynnal rhestr flynyddol o athrawon llanw sydd am weithio yng Ngwynedd, gyda gwiriadau DBS yn cael eu cynnal.
"Does ganddo ni ddim cyfrifoldeb i gadw rhestr o athrawon llanw sydd ar gael i’n hysgolion ni jyst rhag ofn," meddai.
"Ond os ydi ysgol yn penderfynu cymryd un o’r athrawon llanw 'na, eu cyfrifoldeb nhw ydi sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant diogelu priodol ac yn gwybod at bwy i droi at yn eu hysgol nhw os oes 'na bryderon yn codi yn ystod y diwrnod yna.
“Dyna realiti’r sefylla 'da ni’n byw yndda fo, ac mi ydan ni’n gallu gwneud popeth gan gynnwys comisiynu systemau, ond os ydi ysgolion yn penderfynu peidio dilyn y systemau yna does gen i ddim o’r pwerau i fod yn gorfodi nhw i wneud hynny.
“Mwy na sgen i’r pwerau i orfodi athrawon llanw sydd dim yn gyflogedig ganddon ni i fynychu hyfforddiant diogelu am ddiwrnod heb warant o waith.”
Ar ddiwedd y cyfarfod, roedd aelodau'r pwyllgor i gyd yn cytuno y dylid derbyn argymhellion yr adroddiad.
Ond gofynnodd y Cynghorydd Gwyrfai i’r adran addysg ymrwymo i weithredu cymaint o'r argymhellion â phosib.