Sir Benfro: Bachgen sydd wedi ei gyhuddo o drywanu athrawes yn gwadu iddo ddweud celwydd
Mae bachgen 16 oed sydd wedi ei gyhuddo o drywanu athrawes hanes yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, Sir Benfro wedi gwadu iddo ddweud celwydd am yr hyn ddigwyddodd.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysgol ar 5 Chwefror wedi adroddiadau bod "disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes".
Mae'r bachgen, nad oes modd cyhoeddi ei enw oherwydd ei oed, yn gwadu ceisio llofruddio Vicki Williams, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd y bachgen ifanc iddo adael yr ysgol yn syth wedi'r digwyddiad a mynd i dŷ ei fam-gu.
Dywedodd iddo wneud hynny "oherwydd y sefyllfa, yr holl sefyllfa, doedd e ddim i fod i ddigwydd."
Ar ran yr erlyniad, gofynnodd Christopher Rees KC, iddo pam na wnaeth e aros yn yr ysgol i "egluro" yr hyn ddigwyddodd.
"Oherwydd roeddwn i mewn sioc," atebodd.
Cyn hynny, clywodd y llys i'r ymosodiad honedig ddigwydd ar ôl i'r bachgen fynd at ddesg yr athrawes a gofyn iddi wirio ei waith.
Yna dywedodd y bachgen fod Mrs Williams yn edrych fel pe bai hi wedi cael sioc a chytunodd ei bod hi wedi cael braw.
"Fe wnes i dynnu'r gyllell allan, oherwydd fe ddywedodd hi wrthai i wneud hynny, yna fe geisiodd hi ei thynnu oddi arna i, ac yna fe ddechreuodd sgrechian," meddai.
"Yr hyn wnaethoch chi oedd ei thrywanu yn ei phen," oedd awgrym Mr Rees wrth ei groes-holi.
Atebodd y bachgen: "Na, roedd gen i gyllell yn yr ysgol, gwelodd yr athrawes fod gen i'r gyllell, fe geisiodd hi ei bachu oddi arna i, ac fe wnes i ymosod arni yn ddamweiniol."
'Celwydd'
Cafodd lluniau cylch cyfyng eu dangos i'r rheithgor o'r llanc yn gadael yr ysgol, cyn mynd i gartref ei fam-gu.
Clywodd y rheithgor fod y bachgen wedi dweud "dim sylw" pan gafodd ei holi gan yr heddlu yn ddiweddarach.
Gofynnodd yr erlyniad iddo" "Pam ddywedoch chi hynny?"
"Roeddwn i mewn sioc, a doeddwn i ddim yn medru meddwl. Nes i ddim dweud wrth yr heddlu mai damwain oedd y cyfan, oherwydd roeddwn i yn dal mewn sioc," meddai.
Gofynnodd Mr Rees: “Rydw i'n mynd i awgrymu wrthoch eich bod yn dweud celwydd oherwydd rydych yn gwybod yn union be ddigwyddodd."
Gwadu hynny wnaeth y bachgen.
Mae'r achos yn parhau.
