Teyrngedau i chwaraewr disglair Rygbi Gogledd Cymru a Chaernarfon yn dilyn ei farwolaeth yn 24 oed

Jack Cameron.jpeg

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr disglair Rygbi Gogledd Cymru a Chaernarfon yn dilyn ei farwolaeth yn 24 oed.

Roedd Jack Cameron Wynne Davies yn dod o Lanfairpwll ar Ynys Môn. 

Yn chwaraewr rygbi talentog, roedd yn chwarae i Glwb Rygbi Caernarfon a Rygbi Gogledd Cymru. 

Mewn teyrnged ar y cyd, dywedodd y ddau glwb rygbi: "Gyda thristwch mawr y mae Clwb Rygbi Caernarfon ac RGC yn cyhoeddi marwolaeth un o'n chwaraewyr, Jack Cameron Wynne Davies yn 24 oed yn unig.

"Ar ôl ymuno â Chlwb Rygbi Caernarfon yn 12 oed fel athletwr addawol iawn, datblygodd mewn amrywiaeth o dimau a llwyddodd i fod yn rhan o lwybr RGC, cyn symud i lawr i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio Addysg Gorfforol a Chwaraeon am dair blynedd. Dychwelodd i CR Gaernarfon ag RGC, gan ailymuno â'r sgwadiau hŷn yn 2023."

Ychwanegodd y clybiau: "Roedd yn rhan allweddol o deulu RGC a CR Caernarfon ac mae ei farwolaeth yn golled ddinistriol i bawb sy'n gysylltiedig â'r ddau glwb.

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb oedd yn ei adnabod yn ystod yr amser anodd hwn."

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru mewn teyrnged: "Mae Undeb Rygbi Cymru yn hynod o drist o glywed am farwolaeth sydyn Jack Davies, chwaraewr RGC.

"Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Jack, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb yn RGC yn ystod yr adeg hynod o anodd hon."
 
Roedd Mr Davies yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn y brifddinas.
 
Roedd yn gweithio yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, lle bu’n ddisgybl yn y gorffennol, cyn ei farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.