Teulu'n codi dros £6,000 wedi i'w mab dwy oed ddioddef llosgiadau
Mae teulu plentyn dwy oed a ddioddefodd losgiadau difrifol wedi codi dros £6,000 i elusen wnaeth "achub ei fywyd."
Ym mis Ebrill 2025, fe wnaeth Vinnie Whyatt o Lyn Ebwy, ddioddef llosgiadau difrifol mewn damwain.
Ffoniodd ei rieni, Paige a Jamie, y gwasanaethau brys ac fe gafodd ambiwlans awyr ei alw.
"Roedd criw'r ambiwlans awyr wedi darparu gofal brys a wnaeth achub bywyd Vinnie," meddai Paige a Jamie.
"Roedden nhw wedi rhoi gofal i Vinnie a theithio gydag e yn yr ambiwlans tan iddo gael ei drosglwyddo i ofal staff Ysbyty Plant Bryste, a wnaeth barhau i ddarparu gofal achub bywyd anhygoel."
Treuliodd Vinnie 51 diwrnod yn yr ysbyty, a bellach mae wedi gwella o'i anafiadau.
'Plentyn hwyliog'
Penderfynodd Paige a Jamie godi arian i elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Children's Burns Trust drwy gynnal digwyddiad elusennol a rhedeg 10k Bryste.
"Eleni, roedd Jamie a fi eisiau rhoi rhywbeth 'nôl," meddai Paige.
"Roeddem eisiau codi arian hanfodol ar gyfer y ddwy elusen sydd wedi achub bywyd Vinnie.
"Mae dros flwyddyn wedi bod ers damwain Vinnie, ac er ein bod ni'n parhau i fynd i Ysbyty Plant Bryste ar gyfer gofal, mae Vinnie yn parhau i fod y bachgen hapusaf yn y byd.
"Mae'n caru bod yn blentyn hwylio, sydd yn mwynhau chwilio, chwarae tu allan a gyrru ei geir bach o gwmpas y lle."
Fe wnaeth Jamie a Paige godi dros £6,000 i'r elusennau, ac maen nhw’n gobeithio codi mwy o arian yn y dyfodol.

