Peter Mandelson: Disgwyl i gannoedd o ddogfennau newydd gael eu cyhoeddi
Mae disgwyl i gannoedd o ddogfennau yn ymwneud â phenodi’r Arglwydd Peter Mandelson yn llysgennad i’r Unol Daleithiau gael eu cyhoeddi ddydd Llun.
Dywedodd ffynhonnell ar ran Llywodraeth y DU mai dyma fydd yr ail gyhoeddiad mwyaf i Dŷ’r Cyffredin erioed.
Fe wnaeth ASau bleidleisio ym mis Chwefror i fynnu bod gweinidogion yn cyhoeddi dogfennau yn ymwneud â’r penodiad.
Daeth y bleidlais ar ôl i ymchwiliad heddlu gael ei lansio i’r Arglwydd Mandelson, ac yn sgil pryderon am y broses fetio oedd yn rhan o’i benodiad.
Roedd y swp cyntaf o ddogfennau, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth, yn dangos bod Syr Keir Starmer wedi cael ei rybuddio am “risg gyffredinol i enw da” y llywodraeth. Roedd hyn oherwydd cysylltiad yr Arglwydd Mandelson â’r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Mae disgwyl i’r ail set o ddogfennau gynnwys negeseuon rhwng yr Arglwydd Mandelson a gweinidogion a chynghorwyr y Llywodraeth, gan gynnwys cyn bennaeth staff Syr Keir, Morgan McSweeney.
Mae’r cyn ysgrifennydd iechyd Wes Streeting eisoes wedi cyhoeddi ei negeseuon ei hun gyda’r Arglwydd Mandelson. Roedd y negeseuon yn cynnwys trafodaeth am Gaza a beirniadaeth o arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer.
Ond mae adroddiadau’n awgrymu na fydd crynodeb adran fetio y llywodraeth, UKSV, yr Arglwydd Mandelson yn cael ei gynnwys.
Cadw dogfennau yn ôl
Daw hynny ar ôl i Heddlu’r Met ofyn i’r Llywodraeth gadw’r ddogfen yn ôl er mwyn osgoi peryglu ei hymchwiliad i honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus gan yr aelod o Dŷ’r Arglwyddi.
Roedd UKSV wedi argymell peidio â rhoi cliriad diogelwch i’r Arglwydd Mandelson. Er hynny fe wnaeth prif swyddog yn y Swyddfa Dramor, Syr Olly Robbins, wrthod y cyngor hwnnw.
Cafodd Syr Olly ei ddiswyddo i bob pwrpas ym mis Ebrill ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi gwrthod y cyngor. Roedd y Prif Weinidog wedi mynnu nad oedd yn ymwybodol o argymhelliad UKSV.
Mae’r Llywodraeth wedi dweud mai dim ond dogfennau y gofynnodd yr heddlu iddyn nhw eu cadw’n ôl sydd heb gael eu cyhoeddi, ac y bydd pob dogfen arall yn cael ei chyhoeddi.
Mae rhannau o sawl dogfen hefyd wedi cael eu cuddio, naill ai er mwyn dileu manylion personol fel enwau swyddogion iau, neu am resymau diogelwch cenedlaethol.
'Cuddio'r gwir'
Cafodd y rhannau a gafodd eu cuddio am resymau diogelwch cenedlaethol eu cytuno gyda Phwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch y Senedd yn San Steffan. Daeth hyn yn dilyn cyfaddawd gydag ASau er mwyn osgoi gwrthryfel gan ASau meinciau cefn dros y galw am y dogfennau.
Mae’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo’r Llywodraeth o geisio “cuddio’r gwir”.
Mae'r gweinidog cysgodol, Alex Burghart, wedi ysgrifennu at brif ysgrifennydd y Prif Weinidog ddydd Sul i fynnu “tryloywder llawn”.
Dywedodd Mr Burghart “na wnaeth y Tŷ roi dewis i’r Llywodraeth ynghylch cuddio rhannau o ddogfennau” y tu hwnt i’r hyn oedd ei angen.
“Bydd y Tŷ yn gweld yr ymddygiad hwn fel dirmyg tuag at y Senedd, a bydd y cyhoedd ym Mhrydain yn ei weld fel ymgais i guddio’r gwir,” meddai.
“Hyd yn oed os bydd y Prif Weinidog yn gadael ei swydd mewn ychydig wythnosau, gallaf eich sicrhau y byddwn ni’n eich dal chi i gyfrif am hyn.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth eu bod wedi “ymrwymo i gydymffurfio’n llawn" â gofynion Tŷ’r Cyffredin.
“Bydd yr ail swp o ddogfennau ymhlith y cyhoeddiadau mwyaf erioed i gael eu gosod gerbron Senedd y DU,” medden nhw.
Mae swyddogion wedi gwrthod cadarnhau pryd y bydd yr ail swp o ddogfennau’n cael eu cyhoeddi.

