Tynnu teganau tywod i blant sy'n cynnwys asbestos oddi ar y silffoedd
Mae dau degan oedd yn caniatáu i blant chwarae gyda thywod wedi eu tynnu oddi ar y silffoedd am eu bod yn cynnwys asbestos.
Roedd y teganau ar werth ar draws y DU.
Fe wnaeth profion gan Which? ar nifer o gynhyrchion - llawer ohonyn nhw’n deganau i blant - ddod o hyd i’r cynnwys gwenwynig.
Roedd un o’r ddau degan i gael ei alw’n ôl yn hambwrdd creu celf mewn tywod ac ar werth ar Amazon Marketplace a TikTok Shop.
Fe ddangosodd profion Which? fod y tywod yn y pecyn yn cynnwys y sylwedd gwaharddedig asbestos tremolit.
Mae’n gallu achosi clefydau difrifol ar yr ysgyfaint os caiff ei anadlu i mewn, hyd yn oed ar lefelau isel.
Mae cynhyrchion sy’n cynnwys unrhyw faint o asbestos wedi’u gwahardd rhag cael eu gwerthu yn y DU.
Dywedodd Which? fod y set wedi parhau i fod ar werth ar Amazon a TikTok tan fis Mai, er bod yr un cynnyrch wedi cael ei alw’n ôl gan y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS) ym mis Mawrth oherwydd llygredd asbestos.
Mae’r OPSS bellach wedi diweddaru’r hysbysiad gwreiddiol i alw’r cynnyrch yn ôl er mwyn cynnwys Amazon a TikTok Shop.
Daeth ymchwilwyr Which? o hyd i asbestos tremolit mewn set arall creu calon a seren allan o dywod oedd yn cael ei werthu yn Asda.
Roedd hefyd ar werth ar wefan eBay gan werthwyr preifat.
Mae mwy na 39 o hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl wedi cael eu cyhoeddi gan yr OPSS ers mis Tachwedd mewn cysylltiad â chynhyrchion tywod sydd wedi’u llygru ag asbestos.
Y gred yw bod y teganau yr effeithiwyd arnyn nhw yn cynnwys tywod o chwareli penodol yn Tsieina, lle mae asbestos yn bresennol yn naturiol.
Dywedodd Sue Davies, pennaeth polisi hawliau defnyddwyr Which?: “Mae’n warthus bod marchnadoedd ar-lein yn gwerthu cynhyrchion a allai olygu gallai plant ddod i gysylltiad ag asbestos, yn enwedig pan oedd rhai o’r cynhyrchion hyn eisoes wedi cael eu galw’n ôl gan yr OPSS.
“Gall eitemau sy’n ymddangos yn ddiniwed, fel teganau a phecynnau crefft, gael effeithiau iechyd difrifol os nad oes gwiriadau priodol i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelwch.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Amazon: “Diogelwch cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif.
“Rydym yn y broses o dynnu pob cynnyrch yn y categori hwn oddi ar ein siop wrth i ni ymchwilio ymhellach. O achos hyn mae’r eitemau dan sylw wedi cael eu tynnu i lawr.”
Dywedodd Asda eu bod wedi dechrau galw’r cynnyrch yn ôl cyn gynted ag y cawsant wybod bod y cynnyrch wedi methu profion.
Fe wnaethon nhw gynghori cwsmeriaid oedd wedi prynu’r cynnyrch i roi’r gorau i’w ddefnyddio ar unwaith a’i ddychwelyd i’w siop agosaf i gael ad-daliad llawn.
Dywedodd llefarydd ar ran eBay: “Fe wnaethom ni dynnu’r eitemau a nodwyd gan Which? oddi ar y wefan yn gyflym, ac rydym yn cynnal rhagor o chwiliadau i ddod o hyd i ddeunydd tebyg sydd ar werth.”
Dywedodd TikTok fod y cynnyrch a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad eisoes wedi cael ei dynnu oddi ar TikTok Shop.

