‘Dydi o jyst ddim yn ddigon’: Galw am fwy o gefnogaeth i deuluoedd plant awtistig
‘Dydi o jyst ddim yn ddigon’: Galw am fwy o gefnogaeth i deuluoedd plant awtistig
Mae mamau plant ag anghenion ychwanegol yng Ngwynedd yn dweud bod diffyg gweithwyr cymdeithasol a gwasanaethau cefnogi yn achosi straen ar deuluoedd.
Mewn rhaglen arbennig o Y Byd ar Bedwar, mae Leian Roberts o Benrhyndeudraeth yn rhannu realiti bywyd gyda’i mab awtistig 10 oed, Twm, sydd hefyd yn ddi-eiriau.
Mae Leian, sy’n nyrs gymwysedig, wedi gorfod rhoi’r gorau i’w gwaith llawn amser er mwyn gofalu amdano.
Drwy wasanaethau Cyngor Gwynedd, mae Twm yn gymwys i gael 10 awr yr wythnos o gymorth un i un gan ofalydd, yn ogystal â seibiant dros nos unwaith bob pythefnos yn Hafan y Sêr.
Hafan y Sêr yw’r unig ganolfan seibiant i blant yng Ngwynedd ac, yn ôl y Cyngor, mae’r gwasanaeth yn llawn.
“Ma Twm yn cael mynd i respite, a ‘dan ni’n ffodus iawn ma’ gynnon ni un rili da," meddai Leian.
"Ond, yn anffodus, dio ddim mor aml â ‘swn i’n licio. ‘Swn i’n licio gweld Twm yn cael mynd yna oleia’ unwaith yr wsos, ac mae o wrth ei fodd cael mynd, ac mae hynny’n gysur mawr i fi.
“Ond i ni gael respite fel teulu a chael brêc i fy iechyd meddwl i, ‘swn i’n licio gweld o’n cael mynd yna’n amlach.”
‘Ma’ nhw mor stretched’
Mae’r rhaglen hefyd yn clywed gan ddwy fam arall o Wynedd, Kim a Chloe, sydd â phlant ag anghenion ychwanegol.
Yng Ngwynedd, mae gwasanaeth o’r enw Derwen yn darparu cymorth i blant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth yn bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth, nyrsys a gwasanaethau seibiant.
Ond yn ôl y mamau, mae’r gefnogaeth yn anghyson ac mae diffyg staff yn broblem gynyddol.
Yn ôl Chloe a Kim, does ganddyn nhw ddim gweithwyr cymdeithasol, oherwydd diffyg staffio sydd wedi achosi pryder i’r ddwy.
“Mae o reit frustrating, ‘chos pwy arall s’gynnon ni i ffonio? Dim byd yn amharchus iddyn nhw, ond ma’ nhw mor stretched, ‘sgennyn nhw ddim y staff.”
Yn ôl ffigyrau diweddar mae nifer y bobl sy’n gwneud cais i hyfforddi fel gweithwyr cymdeithasol wedi gostwng 42% dros y degawd diwethaf.
Mae gan Gymru hefyd lai o weithwyr cymdeithasol nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig.
“Mae’r system wedi torri”
Mae mamau yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth i blant ag anghenion ychwanegol.
“Mae o fatha bo’ mwy o blant yn dod, ond mae’r services yn mynd yn llai. Dydio jyst ddim yn digon," meddai Kim.
Ychwanegodd Leian: “Dwi’m yn meddwl bod gennyn nhw insight i be’ ma’ teuluoedd fatha ni yn byw o ddydd i ddydd. Does ‘na ddim price tag ar roid gofal gora’ i blant fatha Twm.”
Yn ôl ystadegau’r llywodraeth, mae awtistiaeth yn effeithio ar tua un o bob 100 o bobl.
Dywedodd Dr Rebecca Williams, seicolegydd clinigol ymgynghorol sydd wedi gweithio gyda phlant ac oedolion awtistig yng ngogledd Cymru ers 25 mlynedd, fod rhieni’n “gorfod brwydro am bob dim”.
“Dwi’n meddwl bod y system wedi torri. Maen nhw’n brwydro o’r dechrau i gael yr asesiad, maen nhw’n brwydro i gael gwasanaeth cefnogol, ysbaid,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod cynorthwyo plant a phobl ifanc i gael y cyfleoedd gorau posib ac i fyw eu bywyd llawn yn eu cymunedau’n hanfodol bwysig.
“Er gwaethaf y buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau mewn llefydd fel Gwynedd, mae Cynghorau ar draws y wlad yn parhau i fethu a chyrraedd y galw yn y maes hynod o bwysig yma," meddai'r llefarydd.
“Ni allwn wneud sylw am blant unigol ond rydym wedi gweld cynnydd yn y galw flwyddyn ar ôl blwyddyn am gefnogaeth i blant Awtistig neu sydd â chyflwr niwroddatblygiadol arall ac mae anghenion y bobl ifanc hyn yn gynyddol gymhleth a dwys.
"Yn ysgolion Gwynedd mae dros 200 o blant gyda diagnosis ffurfiol o Awtistiaeth a mwy na 1,000 o blant gydag anawsterau niwroddatblygol neu ryngweithio.
"Ochr yn ochr â’r cynnydd hwn yn y galw, mae prinder gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol yn her fawr ar draws Cymru wledig, gan gynnwys yma yng Ngwynedd.
“Er yr heriau, lles pobl a phlant anabl a’u teuluoedd sydd bwysicaf. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor bwysig ydi cefnogaeth ysbaid i deuluoedd ac yn cydymdeimlo gyda rhieni sydd angen mwy o gymorth.
"Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig amrediad o gyfleoedd i deuluoedd plant sydd â chyflyrau, gan gynnwys seibiannau byr mewn llety arbenigol ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu mwy o gartrefi bychan ar gyfer plant ar draws y sir.
“Mae buddsoddiad Cyngor Gwynedd mewn gwasanaethau cymdeithasol i blant ag anghenion wedi mwy na dyblu dros y bum mlynedd ddiwethaf a byddwn yn cynyddu’r gyllideb eto yn 2026/27.”
Mae Y Byd ar Bedwar: Awtistiaeth Fy Mab ar gael i wylio rwan ar iPlayer a Clic, neu ar sianel S4C nos Lun am 20:00.
