Y Cymro sy'n ceisio sicrhau bod Ronaldo ar ei orau yng Nghwpan y Byd

Sgorio
richard evans a Ronaldo

Er na fydd Cymru yn rhan o Gwpan y Byd eleni, mae un Cymro dal yn gobeithio cael ei afael ar wobr fwyaf y gamp.

Gyda chwaraewyr fel Cristiano Ronaldo a Bruno Fernandes yn arwain y gad dros Bortiwgal, y dasg sy’n wynebu Richard Evans yw eu cadw nhw a gweddill y garfan yn ffit, iach ac mewn hwyliau da drwy gydol y gystadleuaeth,

Yn gyn-chwaraewr proffesiynol dros Gaerdydd, Bryste a Chaerwysg, mae Evans wedi bod yn Bennaeth Perfformiad ar dîm cenedlaethol Portiwgal ers 2023.

Ar ôl ymddeol fel chwaraewr wedi anaf, cafodd swydd fel ffisiotherapydd gyda’r Elyrch.

Mewn cyfweliad gyda Sgorio, dywedodd Richard Evans: “Yn amlwg, dyna le cychwynnodd fy nhaith. Y dyddiau yna, dim ond rheolwr, is-reolwr ac wedyn fi oedd yna. Felly roeddwn i’n wyddonydd chwaraeon, therapydd chwaraeon, ffisiotherapydd, maethegwyr – fi oedd yn rhoi’r cwrw ar y bys ar gemau oddi cartref.”

Image
Richard
Mae Richard Evans yn paratoi tîm Portiwgal ar gyfer Cwpan y Byd 2026

Fe wnaeth penodiad Roberto Martinez fel rheolwr y clwb newid trywydd gyrfa’r gŵr o Lyn Ebwy.

“Y diwrnod nes i gwrdd ag e, roedd o’n eiliad, A ha!. Fe ddywedais i, 'Dwi erioed wedi cwrdd â pherson fel hyn'.

“Y ffordd yr oedd yn siarad am y gêm, y ffordd roedd eisiau paratoi ac ymarfer – roedd ganddo feddylfryd gwahanol nad oeddwn i wedi ei weld o’r blaen.”

'Teyrngar'

Ar ôl cyfnod cofiadwy gydag Abertawe, fe aeth Martinez ymlaen i reoli Wigan, Everton a Gwlad Belg cyn ei swydd bresennol gyda Phortiwgal – gydag Evans yn ei ddilyn ar hyd bob cam.

Dywedodd Roberto Martinez wrth Sgorio: “Fe gwrddais i â Richard am y tro cyntaf pan gyrhaeddais yn Abertawe. Mae wedi bod yn hyfryd i mi weithio gydag e yn Adran Dau ac Adran Un, curo Brasil yng Nghwpan y Byd, a chael saith mlynedd yn Uwch Gynghrair Lloegr.

“Mae’n berson mor deyrngar, ac o’r ochr ddynol, mae’n gaffaeliad mawr i mi fel rheolwr – heb sôn am y gwaith arbennig mae’n wneud fel aelod pwysig o’r staff technegol.”

Ychwanegodd Richard: “Pe baech chi wedi dweud ar y diwrnod y cwrddais â Roberto ein bod ni'n mynd i ddechrau taith gyda'n gilydd o Abertawe i Wigan, i Everton, i Wlad Belg a nawr Portiwgal, bydden ni wedi dweud, 'Dim siawns.'

“Enillwyr Cwpan yr FA [gydag Wigan yn 2013] — roedd honno'n foment wych. Fel plentyn, rydych chi'n cofio gwylio Cwpan yr FA oherwydd mai dyma ddiwrnod mwyaf y calendr chwaraeon. Roedd bod yn rhan o dîm a enillodd Gwpan yr FA yn freuddwyd plentyn yn dod yn wir.”

Cwrdd â Ronaldo

Nawr, yn rhan o dîm hyfforddi Portiwgal, mae Richard yn dweud mai ei brif swyddogaeth yw “gwybod bob darn o wybodaeth am bob chwaraewr sydd yn dod i’r gamp”. Mae ganddo gefndir academaidd mewn gwyddorau chwaraeon a ffisiotherapi.

Image
Ronaldo a Richard
Mae Richard Evans wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Portiwgal ers 2023

Roedd cwrdd â seren Portiwgal, un o oreuon yn hanes y gamp, Cristiano Ronaldo, yn foment gofiadwy, meddai.

“Roeddwn i’n eithaf nerfus, a dweud y gwir. Yn amlwg, rydw i wedi cwrdd â rhai chwaraewyr gwych ac wedi bod yng nghwmni rhai ohonyn nhw, ond gyda’i statws chwedlonol e, roeddwn i fel, “O mam bach.” Anadl fawr ddofn.

“Ond mae e’n berson mor groesawgar ac fe wnaeth e wneud i mi deimlo’n gyfforddus ar unwaith.”

Gyda thîm Craig Bellamy yn methu allan ar eu lle yn y gystadleuaeth y tro hwn, bydd Richard yn gobeithio hedfan baner y Ddraig Goch dros Gymru.

“Yn amlwg rydw i’n siomedig na lwyddodd Cymru i’w gwneud hi, ond rwy’n falch iawn i fod yn Gymro sy’n gweithio dros Bortiwgal – a gobeithio byddwn i’n ei hennill.”

Bydd modd gwylio Y Cymro yng Nghwpan y Byd ar dudalen YouTube Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.