Tanau gwyllt yn ail gydio yng Nghymru wrth i'r gwynt godi

Tan Gwyllt Gogledd
Tân

Yn ôl Gwasanaeth Tân y Gogledd, mae sawl tân wedi ailgydio brynhawn Sadwrn wrth i'r gwynt godi.

Mae hynny wedi digwydd yn ardaloedd Mynydd Conwy, Mynydd Bangor yn ogystal ag ardal Harlech a choedwig Bronaber a Chwm Nantcol yn Eryri 

Fore Sadwrn, dychwelodd hofrennydd i fynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech am yr ail ddiwrnod i gynorthwyo criwiau tân sy’n mynd i’r afael â’r tanau gwyllt yn yr ardal.

Cafodd yr hofrennydd ei ddefnyddio gyntaf ddydd Gwener i helpu criwiau i gyrraedd ardaloedd anodd ac anghysbell lle’r oedd y tân yn dal i losgi.

Mewn diweddariad brynhawn Sadwrn, dywedodd y Rheolwr Cyflwyno Gwasanaeth, Jami Jennings: "Mae adnoddau ychwanegol wedi'u defnyddio fel rhagofal i sicrhau bod y sefyllfaoedd tân hyn yn cael eu rheoli. Mae hofrennydd diffodd tân hefyd yn parhau ar y safle ochr yn ochr â chydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru."

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, maen nhw a Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o bobl yn teithio i leoliadau tanau gwyllt i dynnu lluniau a fideos o'r awyr. 
 
Maen nhw hefyd yn rhybuddio na ddylai bobl wersylla yn yr ardaloedd hynny.  
 
"Mae cydweithwyr o'r timau Achub Mynydd wedi adrodd heddiw am gynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r ardaloedd yr effeithir arnynt gyda'r bwriad o 'wersylla gwyllt'. Nid yn unig y mae hyn yn beryglus, ond mae hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau a gall rwystro gweithrediadau diffodd tân a mynediad i wasanaethau brys," meddai'r datganiad.  
 
"Gan fod yr amodau'n parhau i fod yn weddol debyg dros y dyddiau nesaf, rydym hefyd yn atgoffa'r cyhoedd i fod yn ofalus iawn yng ngefn gwlad. Os gwelwch yn dda, peidiwch defnyddio barbeciwiau tafladwy, sicrhewch fod sigaréts wedi'u diffodd yn llwyr, ewch â sbwriel adref gyda chi a pheidiwch byth â gadael poteli gwydr ar ôl, gan y gall y rhain gynyddu'r risg o danau gwyllt."
 

Mae’r gwasanaeth hefyd yn parhau i fonitro nifer o danau eraill ledled y gogledd, gan gynnwys Pentrefelin yng Nghaergybi, Pentre Helygain a Mynydd yr Hôb yn Sir y Fflint, Mount Pleasant ym Mrymbo ger Wrecsam a Bwlch Sychnant yng Nghonwy.

Tanau eraill ledled Cymru

Image
Ymateb Tan Blaenafon.jpeg
Swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn monitro’r tân gwyllt ym Mlaenafon.

Yn Sir Torfaen yn y de, mae’r gwasanaethau brys yn parhau i fynd i’r afael â thanau gwyllt sydd wedi effeithio ar 220 hectar o dir cymysg ym Mlaenafon.

Mae llinell atal lawn wedi’i chreu o amgylch y tân er mwyn ceisio’i gadw dan reolaeth, a bydd criwiau’n aros yn y lleoliad cyhyd ag y bo angen.

Yn y Rhondda, cafodd trigolion Glynrhedynog eu rhybuddio nos Wener y gallai mwg o dân yn yr ardal effeithio ar y gymuned.

Cafodd pobl eu cynghori i aros dan do a chadw ffenestri a drysau ar gau os oedd mwg yn effeithio arnyn nhw.

Mae’r gwasanaeth tân hefyd wedi cynghori pobl i gadw anadlyddion a meddyginiaeth wrth law, gan fod mwg yn gallu achosi llid i’r llygaid, y trwyn a’r gwddf.

Tu allan i Gymru 

Image
Cerbyd tân ar ei ffordd i fynd i’r afael â thân gwyllt sy’n effeithio ar dalaith Castilla y León, ym mhentref El Tiemblo, Sbaen, ar 24 Gorffennaf 2026.
Cerbyd tân ar ei ffordd i fynd i’r afael â thân sy’n effeithio ar dalaith Castilla y León, ym mhentref El Tiemblo, Sbaen (Llun: Reuters)

Mae tanau gwyllt yn achosi trafferthion mawr mewn gwledydd eraill hefyd. 

Yn yr Alban, mae rhai o drigolion Nethy Bridge, ger tanau gwyllt y Cairngorms, wedi dewis aros yn eu cartrefi ar ôl cael eu cynghori i adael fel rhagofal. 

Maen nhw wedi beirniadu ymateb yr awdurdodau, gan ddweud y dylai digwyddiad mawr fod wedi’i ddatgan yn gynharach.

Mae mwy na 220,000 o bobl wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi yn Ffrainc a Sbaen.

Mae'r awdurdodau yn Ffrainc wedi gorchymyn i bron i 60,000 o bobl adael ardaloedd ger Bordeaux, gyda thua 200,000 wedi cael eu symud o ranbarthau Gironde a Landes yn ne-orllewin y wlad.

Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi galw ar y fyddin i gynorthwyo.

Yn Sbaen, mae swyddogion wedi rhybuddio bod tân ger Madrid y tu hwnt i allu diffoddwyr tân i’w reoli ar hyn o bryd, ar ôl i dri thân i’r gorllewin o’r brifddinas uno’n un tân mawr.

Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.