Tân ger Ysbyty’r Tywysog Charles yn atal yr Ambiwlans Awyr rhag glanio
Mae tân yng nghyffiniau Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful wedi atal yr Ambiwlans Awyr rhag glanio ar y safle ddydd Mercher.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bod hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr yn cael eu dargyfeirio am y tro.
O ganlyniad mae’r bwrdd iechyd wedi rhybuddio y gallai cleifion sydd angen triniaeth arbenigol frys gael eu cludo i ysbytai eraill.
Gallai hyn arwain at amseroedd trosglwyddo hirach ac oedi cyn i rai cleifion gael mynediad at driniaeth, ychwanegodd.
Mae’r bwrdd iechyd wedi pwysleisio nad yw’r digwyddiad yn effeithio ar weithrediad yr Adran Frys.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu De Cymru yn ymateb i'r digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd iechyd: "Efallai y bydd angen dargyfeirio cleifion sydd angen triniaeth arbenigol frys i ysbytai eraill, a gallai hynny arwain at amseroedd trosglwyddo hirach ac oedi cyn cael mynediad at ofal.
"Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid yn y gwasanaethau brys i ddatrys y sefyllfa mor gyflym a diogel â phosib, a byddwn yn darparu rhagor o ddiweddariadau pan fyddant ar gael."
Ychwanegodd: "Hoffem dawelu meddwl y cyhoedd mai mynediad Ambiwlans Awyr yn unig sy’n cael ei effeithio gan y digwyddiad hwn.
"Mae’r Adran Frys yn parhau ar agor, a dylai unrhyw gleifion sydd angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng barhau i fynd yno fel arfer, neu ffonio 999 mewn argyfwng sy’n peryglu bywyd."
