Cwêst: Cwpl priod wedi marw o 'drawma sylweddol' mewn damwain awyren ger Trawsfynydd
Mae agoriad cwêst wedi clywed bod cwpl priod wedi marw o ganlyniad i "drawma sylweddol" mewn damwain awyren ger Trawsfynydd yng Ngwynedd yr wythnos diwethaf.
Bu farw Sheetal Keton Swali, 55 oed, a Ketan Ashwinkumar Swali, 59 oed, a oedd yn teithio yn yr awyren, yn y fan a'r lle.
Roedd Ketan yn gyfarwyddwr cwmni o Gaerlŷr ac wedi ymddeol, tra bod ei wraig, Sheetal, yn ysgrifennydd cwmni ac wedi ymddeol.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau nad oedd awyren ysgafn, a oedd yn teithio o faes awyr yn Lloegr, wedi cyrraedd Maes Awyr Caernarfon yn Ninas Dinlle yn ôl y disgwyl ddydd Gwener diwethaf.
Wrth agor y cwêst, dywedodd crwner cynorthwyol gogledd-orllewin Cymru, Sarah Riley, fod gwylwyr y glannau wedi cysylltu â'r heddlu i roi gwybod iddynt am ddamwain awyren bosib.
Roedd awyren Piper PA-28 wedi diflannu oddi ar radar ger Porthmadog wrth hedfan i Faes Awyr Caernarfon.
Dywedodd y crwner fod yr awyren ysgafn wedi cael ei rhentu o Glwb Hedfan Sherwood ac wedi ei lleoli ym Maes Awyr Tatenhill ger Burton-on-Trent.
Cafodd yr awyren ei darganfod mewn lleoliad anghysbell ger Trawsfynydd.
Fe gafodd archwiliadau post-mortem Sheetal Keton Swali a Ketan Ashwinkumar Swali eu cynnal yn Ysbyty Glan Clwyd.
Nododd y crwner "drawma sylweddol" fel achos marwolaeth dros dro'r cwpl priod.
Roedd aelodau o deulu Mr a Mrs Swali wedi ymuno â'r cwêst ddydd Mawrth drwy gyswllt fideo.
Dywedodd y crwner wrth y teulu: "Cydymdeimladau i chi gyd. Mae colli Mr a Mrs Swali gyda'i gilydd yn sicr yn dorcalonnus. Mae fy meddyliau gyda chi yn ystod yr amser anodd hwn."
Cafodd y cwêst ei ohirio tra bod y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn cynnal ymchwiliad.
