Tafod Glas: Prinder brechlynnau yn 'bryderus' wrth i achosion gynyddu
Mae undebau amaethyddol yn dweud bod prinder brechlynnau ar gyfer trin y Tafod Glas yn "bryderus" wrth i achosion yng Nghymru gynyddu.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wrth Newyddion S4C fod angen "sicrwydd bod gan ffermwyr fynediad amserol a fforddiadwy at frechu."
Ychwanegodd Llywydd NFU Cymru, Abi Reader, ei bod yn "hanfodol" bod ffermwyr yn trafod â'u milfeddygon am yr angen am frechlynnau, fel bod cyflenwyr yn deall maint y galw am frechlynnau.
Ar 17 Awst roedd 13 achos o'r Tafod Glas yng Nghymru a 439 yn Lloegr. Mae hynny'n gynnydd sylweddol o'r tri achos yng Nghymru a'r 81 yn Lloegr ar 3 Awst.
O'r achosion hyn, mae 825 mewn defaid, 151 mewn gwartheg ac un mewn lama.
Roedd 348 achos o'r Tafod Glas ym Mhrydain rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 30 Mehefin 2026, gyda 24 ohonynt yng Nghymru.
'Blaenoriaethu cyflenwad'
Mae pryder am nifer y brechlynnau BTV-3 sydd ar gael ar hyn o bryd, gyda Dr Sioned Timothy o gwmni Boehringer Ingelheim, sy'n cyflenwi'r brechlyn, yn dweud bod prinder.
Mae Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio argaeledd a chyflenwad y brechlynnau hyn.
“Mae clefyd y Tafod Glas yn bryder cynyddol i ffermwyr Cymru, yn enwedig ar adeg pan fo’r diwydiant eisoes yn wynebu pwysau digynsail o ganlyniad i dywydd sych hirfaith ac amodau ffermio heriol," meddai.
“Rydym yn cynghori ffermwyr i barhau i fod yn wyliadwrus, dilyn arferion bioddiogelwch trylwyr a siarad â’u milfeddyg am frechu, sy’n parhau i fod yr amddiffyniad gorau yn erbyn clefyd y Tafod Glas.
"Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o bryderon ynghylch prinder posib o frechlynnau o ganlyniad i’r galw cynyddol.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i argaeledd a chyflenwad brechlynnau, gan weithio gyda’r sector milfeddygol a’r diwydiant i sicrhau bod gan ffermwyr fynediad amserol a fforddiadwy at frechu.
"Gan fod ffermwyr eisoes yn wynebu pwysau sylweddol, rhaid blaenoriaethu cyflenwad digonol o frechlynnau er mwyn helpu i gyfyngu ar effaith clefyd y Tafod Glas ar dda byw Cymru a busnesau ffermio.”
Wrth ymateb i'r sylwadau, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine, yn annog ffermwyr i archebu brechlynnau nawr er mwyn sicrhau bod ganddynt mynediad at gyflenwad.
“Brechu yw’r unig fesur rheoli hirdymor hyfyw ar gyfer y Tafod Glas. Mae’r galw am frechlynnau yn uchel iawn ar hyn o bryd," meddai.
“Rydym yn parhau i annog pob ceidwad anifeiliaid sy’n agored i niwed i drafod brechu gyda’u milfeddyg preifat. Cynghorir ffermwyr a milfeddygon i archebu brechlynnau nawr er mwyn sicrhau mynediad at gyflenwadau sydd ar gael yn fasnachol.”
Ym mis Gorffennaf 2025, dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, fod mwy na 140,000 o ddosau o frechlyn BTV-3 wedi cael eu rhagnodi yng Nghymru. Nid oes ffigurau ar gael eto ar gyfer 2026.
'Bygythiad'
Gall da byw symud yn rhydd rhwng Cymru a Lloegr ers i'r Parth Cyfyngedig Cymru Gyfan gael ei sefydlu ym mis Tachwedd 2025. Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar amaethwyr i wirio statws y Tafod Glas mewn anifeiliaid cyn prynu neu symud da byw.
Nid yw Llywydd NFU Cymru, Abi Reader, o'r farn bod budd mewn gosod cyfyngiadau ar symud da byw rhwng Cymru a Lloegr ar hyn o bryd.
Mae'n credu bod y clefyd wedi lledaenu ar draws y ddwy wlad yn barod, ac yn rhagweld y bydd mwy o achosion wrth i'r hydref agosáu.
"Nid yn unig y gall y feirws effeithio ar iechyd anifeiliaid, ond mae hefyd yn effeithio ar gynhyrchiant, ffrwythlondeb a masnach, gan greu straen a phwysau ariannol sylweddol i fusnesau fferm," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae'r feirws eisoes wedi'i ledaenu ledled Lloegr ac i mewn i Gymru, felly ni fyddai cyfyngiadau ar symud da byw yn cynnig unrhyw fudd ar hyn o bryd. Brechu yw'r dull gorau o hyd i ffermwyr amddiffyn eu buchesi, a dyna pam rydym yn annog ffermwyr i siarad â'u milfeddyg preifat eu hunain am y manteision.
"Wrth i ni symud i'r hydref, mae nifer yr achosion yn parhau i gynyddu bob dydd. Ar hyn o bryd mae 13 achos yng Nghymru, ond rydym yn rhagweld y bydd rhai o'r achosion hyn hefyd yr ochr hon o'r ffin."
