Tri o'r un teulu wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi yn ne ddwyrain Lloegr
Mae tri aelod o’r un teulu wedi marw ar ôl mynd i drafferthion oddi ar arfordir Sussex yn ne ddwyrain Lloegr.
Dywedodd Heddlu Sussex fod cwpl a'u merch yn ei harddegau wedi marw yn Shoreham-by-Sea ar ôl i’r gwasanaethau brys ymateb i adroddiad fod pedwar person mewn trafferth yn y dŵr ger Shoreham Fort.
Cred yr heddlu fod y teulu wedi mynd i'r dŵr i nofio.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd James Collis fod dyn, menyw a merch yn ei harddegau wedi marw, tra bod merch iau o'r un teulu mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi perthnasau agosaf y teulu.
Dywedodd Tom Rutland, Aelod Seneddol East Worthing a Shoreham: "Rwy'n hynod drist o glywed y newyddion trasig bod tri o bobl wedi marw yn dilyn digwyddiad yn y dŵr ger Shoreham Fort.
"Mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r rhai sydd wedi colli eu bywydau, ac rwy'n gwybod y bydd y gymuned gyfan yma yn Shoreham yn gobeithio ac yn gweddïo am wellhad y ferch ifanc sy'n derbyn triniaeth feddygol yn yr ysbyty.”
