Burnham yn datgan rhoddion gwerth £345,000 cyn dod yn arweinydd

Andy Burnham

Fe dderbyniodd Andy Burnham tua £345,000 mewn rhoddion dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ei ddatganiad buddion cyntaf ers dod yn Brif Weinidog y DU ym mis Mehefin.

Mae’r cyfanswm yn cynnwys cyfraniadau o dros £164,000 gan yr Arglwydd Sainsbury, cyn-gadeirydd yr archfarchnad o’r un enw a chefnogwr hir dymor i’r Blaid Lafur.

Fe gafodd rhoddion y gŵr busnes eu nodi yn y gofrestr fel cyfraniadau i gefnogi ymgyrch Mr Burnham i olynu Syr Keir Starmer fel arweinydd y blaid.

Ymhlith y cyfranwyr eraill i'w ymgyrch oedd y gŵr busnes Gary Lubner, a gyfrannodd £25,000, a chyn-ymgynghorydd Mr Burnham ar fywyd nos Manceinion, Sacha Lord, a gyfrannodd £35,000.

Derbyniodd y Prif Weinidog £50,000 at ei ymgyrch gan y cwmni teledu Charlie Parsons Creative, yn ogystal â mwy na £22,000 gan y felin drafod ThinkLabour, oedd yn arfer dwyn yr enw Labour Together.

Fe gafodd yr arian ei ddefnyddio i dalu am swyddfa, cyfarpar, staff, teithio ac arolygon barn, ymhlith dibenion eraill.

Mae'r rhestr hefyd yn cynnwys rhoddion y derbyniodd Mr Burnham fel Maer Manceinion, gan gynnwys tocynnau i ŵyl Glastonbury, gwobrau'r Brits, rasys ceffylau a gêm o griced. Fe gafodd hefyd hamper gwerth £340 o bunnau gan Lysgennad Qatar.

Daeth rhoddion i wleidyddion yn bwnc llosg yn nyddiau cyntaf Syr Keir fel arweinydd y DU yn 2024, wedi iddi ddod i'r amlwg iddo dderbyn tocynnau i gyngerdd Taylor Swift ac arian i dalu am ddillad. Fe ad-dalodd dros £6,000 i'r pwrs cyhoeddus yn y pendraw. 

Llun: James Manning/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.