Penodi Steve Backshall yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor
Mae'r cyflwynydd teledu a'r naturiaethwr Steve Backshall wedi ei benodi'n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor am ei gyfraniad eithriadol at y brifysgol a'i myfyrwyr.
Mae Steve Backshall yn fwyaf adnabyddus am y rhaglenni Deadly 60, Expedition a Blue Planet Live.
Ymunodd â thîm dysgu Prifysgol Bangor yn 2020 ac ers hynny mae wedi bod yn ymwelydd rheolaidd â'r brifysgol.
Mae Mr Backshall wedi cynnal darlithoedd i gannoedd o fyfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd ym Mangor ar bynciau gan gynnwys gwenwyn, siarcod a nadroedd yn ogystal â chadwraeth bywyd gwyllt a sut beth ydy gweithio yn y diwydiant rhaglenni natur.
Yn ystod ei gyfnod gyda Phrifysgol Bangor, mae wedi mynd â myfyrwyr i snorcelu oddi ar arfordir Ynys Môn ac i weld bywyd gwyllt ar hyd arfordir gogledd Cymru.
Mae hefyd wedi cyhoeddi gwaith gwyddonol gydag academyddion Bangor ar ôl ffilmio rhaglen ddogfen yn Suriname ar y berthynas rhwng adar gwartheg enfawr a thapiriaid De America.
Cafodd hefyd radd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor am ei wasanaeth i addysg yn 2023.
'Brwdfrydedd y myfyrwyr a'r staff'
Dywedodd Mr Backshall: "Mae Bangor yn lle arbennig iawn i mi.
"Mae gan y brifysgol arbenigedd yn y gwyddorau amgylcheddol a naturiol, ond yr hyn sy’n sefyll allan fwyaf i mi yw brwdfrydedd y myfyrwyr a’r staff."
Ychwanegodd: "Rwy’n falch dros ben o gael fy ngwneud yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu treulio amser gyda myfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf, boed hynny mewn darlithfa, allan ar y dŵr neu’n siarad am fywyd gwyllt a chadwraeth. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o gymuned Bangor ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hyd yn oed mwy o bethau gyda'n gilydd."
'Malio am ein myfyrwyr'
Dywedodd yr Athro Christian Dunn, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: "Mae Steve yn amlwg yn un o’r cyflwynwyr natur mwyaf adnabyddus yn y wlad, ond yr hyn efallai na fydd pobl yn ei wybod yw pa mor hael y mae gyda’i amser a’i wybodaeth. Mae wir yn malio am ein myfyrwyr.
"Mae'n dod i Fangor, yn rhoi darlithoedd, yn mynd â myfyrwyr allan i'r maes ac yn creu cyfleoedd iddynt na fyddent yn eu cael fel arfer.
"Mae ein myfyrwyr wedi tyfu i fyny yn gwylio Steve ac wedi cael eu hysbrydoli ganddo i astudio sŵoleg, cadwraeth a gwyddorau naturiol. Dros y blynyddoedd diweddar, mae wedi cwrdd â channoedd ohonyn nhw yma ym Mangor, ac wedi eu hysbrydoli i gyd."
