'Taflu wrin mewn potel': Gweithwyr rheoli traffig Pont Menai 'wedi wynebu camdriniaeth'
Mae gweithwyr rheoli traffig ar Bont Menai yn dweud eu bod wedi wynebu camdriniaeth gan rai gyrwyr, gan gynnwys gweiddi, gyrru ymosodol a thaflu poteli atyn nhw.
Mae’r staff yn ceisio atal cerbydau sy’n pwyso dros 7.5 tunnell rhag croesi’r bont tra bod gwaith atgyweirio’n parhau.
Mae’r bont, sy’n un o’r ddwy groesfan rhwng Ynys Môn a’r tir mawr, wedi cau sawl gwaith ers i broblemau strwythurol ddod i’r amlwg ym mis Hydref 2022, gan achosi aflonyddwch sylweddol i bobl leol.
Dywedodd y cwmni Spencer Bridge Engineering fod y sefyllfa wedi mynd mor ddrwg nes bod yn rhaid tynnu gweithwyr oddi yno er eu diogelwch.
'Ni yw’r bobl ar y rheng flaen'
Dywedodd Gary Roberts, sy’n gweithio ym maes rheoli traffig: “Mae pobl yn agor eu ffenestri ac yn gweiddi arnon ni.
“Ry’n ni wedi gweld ambell botel ddŵr yn cael ei thaflu, hyd yn oed un ag wrin ynddi. Mae rhai wedi gyrru mewn ffordd ymosodol i godi ofn ar bobl, ac eraill wedi ein ffilmio ar eu ffonau.
“Pan maen nhw’n gweiddi arnon ni, ry’n ni eisiau iddyn nhw wybod mai ni yw’r bobl ar y rheng flaen.
“Dydyn ni ddim yn gwneud y penderfyniadau, mae hynny’n cael ei wneud gan bobl uwch i fyny, ond ni sy’n cael yr holl feirniadaeth.”
Ychwanegodd fod rhai wedi cyhuddo’r gweithwyr o eistedd ar gadeiriau ac edrych ar eu ffonau.
Ond dywedodd eu bod yn defnyddio ap ar eu ffonau wrth geisio asesu pwysau cerbydau.
“Pobl gyffredin sy’n gweithio ydyn ni,” meddai.
“Ry’n ni yma i wneud ein gwaith ac, ar ddiwedd y dydd, ry’n ni’n ceisio cadw pobl yn ddiogel.
“Ry’n ni wedi cael llawer o gamdriniaeth, ar lafar ac ar-lein, ac mae’n gallu bod yn straen mawr.”
'Dim lle i fwlio'
Bu’r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper AS, yn ymweld â’r bont ddydd Mawrth i gyfarfod â’r gweithwyr ac i glywed am effaith y cau cyson ar bobl leol.
Gan ymateb i’r hyn roedd y gweithwyr wedi’i ddweud, dywedodd nad oedd “lle i aflonyddu a bwlio”.
“Mae’r gweithwyr jyst yn gwneud eu gwaith ac yn ceisio cadw pobl yn ddiogel,” meddai.
Galwodd ar fodurwyr sy’n rhwystredig oherwydd yr oedi i “gymryd anadl” a pheidio â beio’r staff.
Dywedodd hefyd fod cyfarfod wedi’i gynnal gyda Heddlu Gogledd Cymru bythefnos yn ôl i drafod y sefyllfa.
Wrth i’r Dirprwy Weinidog siarad â newyddiadurwyr ger tŷ meistr y bont ar ochr Gwynedd o’r Fenai, roedd rhai modurwyr yn canu eu cyrn ac eraill yn gweiddi drwy ffenestri eu cerbydau.
Dywedodd Jon Bailey, cyfarwyddwr prosiect Spencer Bridge Engineering, ei bod hi’n “anodd iawn” rheoli’r sefyllfa ar adegau.
“Ry’n ni’n ceisio ei anwybyddu gymaint â phosib a pheidio ag ymateb iddo,” meddai.
Dyfodol y pontydd
Bu Mr Hooper hefyd yn cyfarfod ag arweinwyr a gwleidyddion lleol, gan gynnwys cynrychiolwyr Cyngor Sir Ynys Môn, i drafod dyfodol y ddwy bont rhwng yr ynys a’r tir mawr.
Roedd y trafodaethau’n cynnwys gwytnwch Pont Britannia a Phont Menai, yn ogystal â’r posibilrwydd o adeiladu trydedd bont.
Ni wnaeth ymrwymo i amserlen, ond cadarnhaodd y byddai datganiad yn cael ei gyflwyno i’r Senedd yn yr hydref.
Ymhlith y syniadau sy’n cael eu hystyried mae ataliadau pellach ar gerbydau trwm o Bont Menai, gosod rhagor o arwyddion ar yr A55 a defnyddio offer i wyro’r gwynt ar Bont Britannia er mwyn lleihau’r cyfyngiadau a’r achosion o gau oherwydd y tywydd.
Dechreuodd gwaith atgyweirio ar Bont Menai ym mis Hydref 2022 ar ôl i ddiffygion ddod i’r amlwg yn y crogfachau (hangers), y rhannau dur sy’n helpu i gynnal dec y bont.
Cafodd y gwaith hwnnw ei gwblhau ddiwedd 2024, ond fe ddaeth rhagor o broblemau strwythurol i’r amlwg.
Mae disgwyl i’r gwaith presennol barhau tan 2027.
Dywedodd Mr Bailey: “Ry’n ni’n delio â phont sy’n 200 oed, felly dydych chi byth yn gwybod beth allai ddod i’r amlwg.
“Cyn belled nad ydyn ni’n dod o hyd i unrhyw broblemau newydd wrth fynd ymlaen, mae’n debygol y bydd y gwaith yn parhau i mewn i’r flwyddyn nesaf, ond allwn ni ddim gwarantu dyddiad gorffen penodol eto.”