Tanau gwyllt: Milwyr yn gadael de Cymru ar ôl cefnogi ymdrechion diffoddwyr

Milwyr yn ne Cymru
Bydd milwyr gafodd eu gyrru i dde Cymru i helpu diffoddwyr yn eu brwydr â thanau gwyllt yn cael eu tynnu’n ôl ddydd Mercher.
 
Fe gafodd swyddogion y fyddin eu galw i’r ardal ddiwedd yr wythnos ddiwethaf wrth i danau niferus roi pwysau aruthrol ar wasanethau brys lleol. 
 
Mae Gwasnaeth Tân ac Achub De Cymru’n parhau i ddelio â chwe digwyddian ar draws y rhanbarth, gan gynnwys tanau gwyllt byw yn ardaloedd Blaenafon, Treherbert, Dowlais a chronfa ddŵr Llwyn-onn.
 
Yn ogystal, mae tiroedd fu ar dân yn Wattsville, Sir Caerffili, a Cwm yng Nglyn Ebwy yn “parhau i gael eu monitro” gan swyddogion, meddai’r gwasanaeth tân.
 
Bydd y milwyr sy’n dal i fod yn bresennol yn cyfrannu at yr ymdrechion yn Nowlais yn ystod y dydd cyn i’r cymorth milwrol ddod i ben yn swyddogol ar ddiwedd y dydd.
 
“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n parhau i weithio ochr yn ochr â chefnogaeth Gwydnwch Cenedlaethol gan wasanaethau tân ar draws y DU, staff milwrol ac asiantaethau partner i ymosod i chwe disgwyddiad tân gwyllt ar draws De Cymru,” meddai’r gwasanaeth.
 
Mae dau hofrennydd yn parhau i gael eu defnyddio i ddiffodd tanau a chasglu gwybodaeth, meddai’r diffoddwyr.
Image
MOD3
 
Cymunedau’n tynnu at ei gilydd
 
Mae degau o danau gwyllt wedi rhoi pwysau mawr ar wasanaethau brys mewn sawl rhan o Gymru dros yr wythnosau diwethaf, gyda’r tywydd poeth a sychder ar hyd y wlad yn cynyddu’r risg o danau.
 
Yn ogystal â thanlinellu heriau sylweddol yn deillio o dywydd eithafol a newid hinsawdd, mae’r tanau wedi amlygu ysbryd cymunedol mewn rhai ardaloedd
 
Nos Fawrth, rhannodd Heddlu’r De neges ar y cyfyngau cymdeithasol yn dangos swyddogion a diffoddwyr tân yn bwyta swper oedd wedi ei ddarparu gan bobl leol.
 
“Hoffwn ddweud diolch i gymunedau lleol am eu haelioni ac am fynd tu hwnt i ddisgwyliadau i ddarparu diodydd a physgod a sglodion i’r criw tân a swyddogion ar y safle,” meddai’r neges ar gyfrif yr heddlu yn ardal Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudul a Phenybont.
 
“Fe wnaeth pobl leol a gweithwyr oedd yn gweithio yn yr ardal godi gwahanol dŵls i dorri’r gwrychoedd ger cartrefi er mwyn lleihau risg tân. Cadw’n cymunedau’n ddiogel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.