Arestio pedwar mewn cysylltiad â thân mewn adeilad rhestredig

Rheola house

Mae pedwar o bobl yn eu harddegau wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â thân mewn adeilad rhestredig Gradd II yng Nghwm Nedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Dŷ Rheola tua 16.50 ddydd Mawrth.

Wedi'i ddylunio gan John Nash, fe'i hadeiladwyd rhwng 1812 a 1814 ar gyfer cefnder Nash, John Edwards.

Mae bachgen 17 oed o’r Barri, Bro Morgannwg, dyn 19 oed o Gendros, Abertawe, a dyn 18 oed o Waunarlwydd, Abertawe, i gyd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol ac maen nhw yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.

Mae dyn 18 oed o Langatwg, Castell-nedd Port Talbot, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o losgi bwriadol, yn ogystal â bod â llafn cyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Llun gan 'Abandoned Welsh Seekers'.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.