Dyn o Drefor wedi dioddef 'sawl anaf' mewn gwrthdrawiad angheuol ger Blaenau Ffestiniog
Mae agoriad cwest wedi clywed bod beiciwr modur o Drefor yng Ngwynedd wedi dioddef "sawl anaf" mewn gwrthdrawiad angheuol ger Blaenau Ffestiniog.
Bu farw Alan Williams, 58 oed, yn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 ar Fwlch y Gorddinan ar 9 Awst.
Roedd yn gyrru beic modur wnaeth wrthdaro â char Volkswagen.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher bod Mr Williams, oedd yn saer coed, wedi dioddef "sawl anaf" yn y gwrthdrawiad.
Cafodd y cwest ei agor gan grwner cynorthwyol gogledd-orllewin Cymru, Sarah Riley, cyn cael ei ohirio tra bod ymchwiliadau'r heddlu'n parhau.
'Dyn gweithgar ag amser i bawb'
Mewn teyrnged iddo wedi ei farwolaeth, dywedodd ei deulu: "Roedd Alan, neu Yncl Al fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn fab, brawd, ewythr, partner a ffrind gorau cariadus i lawer o bobl.
"Roedd wedi ei ymrwymo i'w deulu ac roedd yn eu caru'n fawr a byddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un.
"Roedd yn ddyn gweithgar a oedd ag amser i bawb. Roedd yn adnabyddus yn yr ardal leol, lle bu’n gweithio fel saer coed ac roedd ei gwsmeriaid bob amser yn ei ystyried yn uchel ei barch.
"Roedd yn mwynhau treulio amser gyda'i ffrindiau a'i deulu, ac roedd yn adnabyddus am y jôcs yr oedd yn eu cael ag eraill."
Ychwanegodd y teulu fod gan Mr Williams "nifer o ddiddordebau gan gynnwys heicio, caiacio, cerddoriaeth a hanes lleol" a'i fod "wrth ei fodd ag anifeiliaid a bod yn yr awyr agored."
"Yn ei amser rhydd, roedd Alan hefyd yn mwynhau bod allan ar ei feic modur. Roedd yn feiciwr modur brwd ac angerddol. Mae'r gymuned leol mewn sioc yn dilyn ei farwolaeth," meddai'r datganiad.
"Hoffem ddiolch i'r rhai sydd wedi cydymdeimlo yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae ein calonnau ni fel teulu wedi eu torri ac rydym ni angen yr amser i alaru. Rydym yn gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod yma."
