Y tad a'r mab sydd â chysylltiad arbennig â Chwpan Cymru
Ar drothwy rownd derfynol Cwpan Cymru rhwng Caernarfon a'r Fflint ddydd Sul, mae gan un tad a mab gysylltiad arbennig â'r gystadleuaeth.
Ychydig iawn o achlysuron sydd lle mae tad a mab wedi chwarae yn rownd derfynol y Gwpan hanesyddol honno, ond dau fydd yn gallu dweud hynny ddydd Sul fydd Waynne a Jake Phillips.
Fe chwaraeodd Waynne yn rownd derfynol Cwpan Cymru dair gwaith, gan golli dwy ac ennill un, a ddydd Sul, fe fydd ei fab Jake, yn chwarae i'r Fflint.
Wedi ei fagu yng Nghaernarfon, fe symudodd Waynne i Wrecsam i fyw yn 17 oed gan chwarae dros 300 o gemau i'r clwb, gan gynnwys yng Nghwpan Cymru.
"Ma' cystadleuaeth Cwpan Cymru yn dod â lot o atgofion da a gwael yn ôl i fi, a’r gêm gyntaf broffesiynol i fi i Wrecsam oedd yn y Gwpan ar y Cae Ras yn Chwefror 1990 yn y pumed rownd yn erbyn Rhyl," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mi sgoris i yn y gêm hefyd, ond gêm gyfartal oedd hi yn anffodus.
"O'n i'n ffodus iawn fel hogyn ifanc 18 oed, o’n i ‘di chwara yn y ffeinal yn 1990 yn erbyn Henffordd, a'th y canlyniad ddim yn dda, colli yn y ffeinal ond mi gafodd y ffeinal ei chwarae yn y Stadiwm Cenedlaethol felly o’dd hwnna yn rwbath mawr i hogyn ifanc o Gaernarfon o’dd ‘di gneud hi i Wrecsam i chwara yn ffeinal Cwpan Cymru."
Rhywbeth tebyg oedd y sefyllfa i Waynne a Wrecsam y flwyddyn ganlynol hefyd, gan golli yn y rownd derfynol yn erbyn Abertawe.
Ond tri chynnig i Gymro, gyda Waynne a Wrecsam yn fuddugol ym 1995 yn erbyn Caerdydd.
"Dwi’n meddwl bod Brian Flynn [rheolwr Wrecsam] wedi dysgu gwers i beidio chwara fi o’r cychwyn yn y ffeinal yna gan bo’ fi wedi colli dwy ffeinal ag ar y fainc o’n i yn y gêm erbyn Caerdydd," meddai Waynne.
"Ond ma’ gen i fedal enillwyr Cwpan Cymru, dwi’n cofio’r gêm... a’r unig siom oedd ges i ddim cyfle i fynd ar y cae a dyna oedd gêm ola' Wrecsam yn y gystadleuaeth achos nath o newid ar ôl hynny."
Dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, ac fe fydd mab Waynne, Jake, yn camu i'r cae yn gobeithio am yr un fedal ddydd Sul ar gae Rodney Parade yng Nghasnewydd.
Y tro diwethaf i'r Fflint ennill y Gwpan oedd ym 1954, ac fe fyddai buddugoliaeth yn golygu llawer i Jake.
"Mae o dros 70 o flynyddoedd yn ôl ers i Fflint ennill Cwpan Cymru a felly pan ti’n ystyried pawb yn y garfan, teuluoedd, pobl sydd yn rhan o’r clwb rŵan, does ‘na ddim lot o bobl sydd yn cofio y diwrnod yna," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi’n meddwl ma’ genna ni gyfle rwan i greu bach o hanes i’r clwb i’n hunain a dwi’n meddwl fasa fo’n grêt os fyse ni’n gallu bod yn rhan o hynny."
Mae Caernarfon bum safle yn uwch na'r Fflint yn y Cymru Premier JD ac er fod Jake yn ymwybodol o hynny, dywedodd nad yw hynny o reidrwydd yn anfantais.
"Ma' nhw uwch ben ni yn y gynghrair, ma’ nhw’n chwara yn y rhan uchaf tra bo’ ni’n chwara yn y rhan isaf ac o bosib, ma’ ‘na fwy o bwysau arnyn nhw a disgwyliadau arnyn nhw i ennill y gêm a dwi jyst yn gobeithio bod hwnna yn mynd i weithio yn ffafr ni dydd Sul," meddai.
Gyda thocyn i Ewrop yn y fantol i'r enillwyr ddydd Sul, mae Jake yn gobeithio y gallai buddugoliaeth ysbrydoli'r Fflint i orffen y tymor yn gryf.
"I rywun sydd wan sydd tuag at ddiwedd ei yrfa pêl-droed, dwi'n meddwl bod y cyfle yn gyntaf i allu cael y posibilrwydd o ennill Cwpan Cymru yn rwbeth enfawr ond ma’ na rwbath ychwanegol am y gêm yma oherwydd y tocyn i Ewrop," meddai.
"'Dan ni jyst yn gobeithio hefyd fysa hwnna yn bach o fomentwm i’r gêm olaf lawr ym Met Caerdydd fel bo' ni’n gallu sefydlu ein hunain yn yr uwch gynghrair."
Yn ogystal â'i fagu yng Nghaernarfon, mae gan Waynne gysylltiad ar y cae efo'r Cofis, gan iddo chwarae a rheoli'r clwb am gyfnod wedi iddo ymddeol.
Ond cefnogi Jake fydd Waynne ddydd Sul.
"Fydda i’n dad prowd iawn... ti isio gweld nhw’n llwyddo a dyna dwi isio gwneud efo Jake, dwi wastad wedi dilyn gyrfa Jake, o’r dyddiau yn Wrecsam efo Nathan Broadhead a Harry Wilson," meddai.
"Doedd ‘na ddim pwysau o gwbl gen i ar Jake, fo oedd wedi penderfynu fod o isio chwara pêl-droed.
"Pan dwi’n gallu, dwi wrth fy modd yn mynd i wylio Jake yn gobeithio bod o’n chwara’n dda ac yn ennill ac er bod o’n 29 wan, ma’r un gefnogaeth yna â be o’dd o pan o’dd o’n saith oed, a dyna fydd o dydd Sul, fydda i yna, y sgarff du a gwyn rownd fy ngwddf yn gobeithio gweld Jake yn codi’r cwpan fel nes i yn 94/95."
Ychwanegodd Jake: "O'dd Dad yn llwyddiannus efo’r gystadleuaeth a dwi yn meddwl fasa fo’n rwbeth balch i fi fel unigolyn ond hefyd fel teulu, os fyswn i hefyd yn gallu bod yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth... pan ma’ tad a mab yn cael llwyddiant mewn unrhyw chwaraeon, ma’ ‘na rwbath arbennig amdana fo."
