Staff Ysbyty Gwynedd yn gwireddu breuddwyd priodas i glaf â chanser terfynol

Maggie

Mae dynes sy'n cael gofal lliniarol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi diolch i staff yno am wireddu ei breuddwyd i allu priodi. 

Mae Maggie Heginbothom, 68 oed, wedi cael diagnosis sy'n cadarnhau canser terfynol ar yr afu.

Dywedodd bod staff yr ysbyty "fel teulu" ar ôl iddynt drefnu seremoni briodas iddi hi a Mark, ei phartner ers 15 mlynedd, mewn dau ddiwrnod yn unig.

Yn wreiddiol o Fro Morgannwg, fe aeth Maggie i'r ysbyty bron i dair wythnos yn ôl ar ôl iddi ddechrau teimlo’n sâl wrth farchogaeth un o’i cheffylau.

Yn dilyn cyfres o sganiau, fe dderbyniodd y newyddion fod ganddi ganser ar yr afu. 

Pan wnaeth Mark ofyn i Maggie ei briodi wrth ochr ei gwely ar ddydd Gwener 6 Tachwedd, aeth staff yr ysbyty ati i roi cynlluniau ar waith i drefnu’r briodas, a gafodd ei chynnal ar Ward Tegid ar ddydd Llun, 9 Tachwedd.

Gan ddefnyddio grŵp cyfryngau cymdeithasol i staff, fe wnaeth cydweithwyr gydlynu popeth gan gynnwys blodau, addurniadau ac adloniant, ac fe wnaeth nifer ohonynt gynorthwyo yn eu hamser eu hunain.

Ar ôl treulio blynyddoedd yn marchogaeth ac yn cystadlu â cheffylau yn Ysgol Farchogaeth Pen Llŷn, fe gafodd Maggie syrpreis arbennig pan ddaeth ei cheffylau, Ozzy a Quiosque, i Ysbyty Gwynedd i ymweld â hi.

'Achlysur arbennig iawn'

Dywedodd Rheolwr Ward Tegid, Rachel Parry, fod y tîm cyfan yn benderfynol o sicrhau y byddai Maggie a Mark yn cael y briodas fwyaf arbennig.

"Roedd yn achlysur hynod o arbennig ac emosiynol. Daeth dagrau i lygaid pawb oedd yno, ac roedd yn hyfryd iawn fod rhai o’r cleifion eraill y mae Maggie wedi cael cyfle i’w hadnabod yn ystod ei chyfnod ar y ward wedi llwyddo i fod yn rhan o’r dathliadau," meddai.

"Fe wnaeth haelioni’r bobl a gynigiodd eu doniau a'u gwasanaethau i sicrhau y byddai’r diwrnod yn un mwy cofiadwy fyth yn rhywbeth a wnaeth gyffwrdd â’n calon hefyd."

Ychwanegod Maggie: "Ni allaf gyfleu pa mor hynod ddiolchgar ydw i i bawb a wnaeth sicrhau y gallai hyn ddigwydd. Roedd yn brofiad mor brydferth ac nid oeddwn i erioed wedi meddwl y byddai’n bosibl, yn enwedig y cyfle i gael gweld fy ngheffylau yno hefyd.

"Mae'r staff yma yn hollol anhygoel. Maent yn gweithio’n eithriadol o galed ac maent wedi amlygu cymaint o gariad ataf i ac wedi fy nhrin i yn hynod o garedig. Heb os, maent fel teulu i mi."

Yn ôl metron y ward, Ceri Newell, mae'r briodas yn enghraifft o'r ymroddiad gan staff y GIG. 

"Mae nyrsio yn ymwneud â llawer iawn mwy na thrin salwch. Mae'n ymwneud â thosturi, caredigrwydd, dyngarwch a chydnabod mai’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud ar brydiau yw helpu i wireddu dymuniadau rhywun," meddai.

"Roedd yr hyn a wnaeth y tîm ei gyflawni i Maggie a Mark mewn cyfnod mor fyr yn rhywbeth hollol ryfeddol, ac rwy’n hynod o falch o bawb a wnaeth gyfrannu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.