Sir Gâr: Carchar i yrrwr tacsi am dreisio menyw ar ôl noson allan
Mae gyrrwr tacsi wnaeth dreisio menyw ar ôl gyrru hi adref wedi noson allan wedi cael ei garcharu am naw mlynedd.
Cafodd Dominic Dalton ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Roedd y fenyw ar noson allan gyda'i ffrind yn Aberystwyth pan gafodd ei gyrru adref mewn tacsi roedd Dalton yn gyrru ar 25 Chwefror 2024.
Credai'r fenyw bod Dalton yn yrrwr tacsi oedd modd ymddiried ynddo.
Ar y daith yn ôl i'w chartref, roedd ffrind y fenyw wedi gadael y tacsi ger ei chartref hi, gan adael y fenyw a Dalton yn y tacsi.
Clywodd y llys bod Dalton wedi honni bod 'meter' y tacsi wedi stopio gweithio, gan fod y daith heb ei gofnodi ar ôl gadael cyfeiriad ffrind y fenyw.
Sgrechain
Roedd y fenyw yn cwympo i gysgu ar y daith yn ôl i'w chartref, a pan gyrhaeddon nhw ei thŷ, roedd Dalton wedi ei deffro a rhoi cymorth iddi fynd i'w gwely.
Cwympodd y fenyw i gysgu cyn deffro a darganfod bod Dalton yn ei threisio.
Mewn ymgais i geisio cael gwared ar Dalton, rhedodd y fenyw i'w chegin i ôl cyllell a sgrechain arno i adael.
Gwrthododd Dalton adael, gan arwain at y fenyw i ffoi o'i chartref yn droednoeth, torri olwynion y tacsi a ffonio'r heddlu o eiddo cyfagos.
Clywodd y llys bod Dalton wedi gadael cartref y fenyw yn ei dacsi a pharcio cyn i yrrwr tacsi arall ddod o hyd iddo. Honnodd Dalton fod ei gar wedi torri lawr oherwydd bod yr olwyn wedi byrstio.
Yn hwyrach gyrrodd Dalton yn ôl i gartref y fenyw, gan ddychwelyd ei ffôn symudol. Sylweddolodd fod yr heddlu eisoes yn yr ardal pan gyrhaeddodd.
Yna fe glywodd y llys ei fod wedi ceisio llunio ei stori a defnyddio ffôn symudol ei hun i chwilio am wefannau gan gynnwys 'wyt ti wedi cael dy gyhuddo'n gam o dreisio?', 'gwyrdroi cwrs cyfiawnder' a 'gwastraffu amser yr heddlu mewn achosion honedig o dreisio'.
Gwadu
Cafodd Dalton ei arestio'r un diwrnod ac wedi ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys cafodd ei gyhuddo o dreisio.
Gwadodd y cyhuddiad yn Llys y Goron Abertawe, gan honni fod y rhyw yn gydsyniol (consensual).
Wedi achos llys hyd bum diwrnod, cafodd ei ganfod yn euog gan reithgor.
Ar 18 Chwefror cafodd Dalton ei ddedfrydu i naw mlynedd yn y carchar.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, yr Arolygydd Ditectif Mathew Nelson bod Dalton wedi "camddefnyddio" ei swydd i "gymryd mantais" o'i ddioddefwr.
“Rwy’n canmol dewrder a gwydnwch y dioddefwr yn ddiffuant wrth ddod ymlaen i adrodd y drosedd erchyll y dioddefodd," meddai.
“Fel gyrrwr tacsi, swydd Dalton oedd sicrhau bod ei deithwyr yn cyrraedd adref yn ddiogel.
"Camddefnyddiodd y swydd honno ar y noson honno, gan fanteisio ar wendid y dioddefwr, ac yn ddiweddarach aeth ymlaen i ddweud celwydd am ei weithredoedd.
“Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniad yn rhoi hyder i ddioddefwyr eraill, gan wybod y bydd eu lleisiau’n cael eu clywed a’u gwrando.
"Rwy’n gobeithio, ar ran y gymuned ehangach, y byddwch chi’n teimlo’n ddiogel gan wybod bod troseddwr fel Dalton wedi cael ei drin yn gadarn.”
