Sir Gâr: Cabinet y Cyngor Sir yn cefnogi camau i gau dwy ysgol gynradd
Mae Cabinet Cyngor Sir Gâr wedi cefnogi cam nesaf y broses i gau dwy ysgol gynradd yn y sir.
Mewn cyfarfod ddydd Llun, fe bleidleisiodd wyth aelod o’r Cabinet o blaid cyhoeddi hysbysiadau statudol ar gynigion i gau Ysgol Gynradd Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn.
Fe wnaeth un aelod ymatal.
Mae’r penderfyniad yn golygu y bydd cyfnod gwrthwynebu ffurfiol o 28 diwrnod yn dechrau, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud ar ddyfodol y ddwy ysgol.
O dan y cynigion, byddai’r ddwy ysgol yn cau ar 31 Rhagfyr 2026.
Byddai disgyblion Ysgol Gynradd Meidrim yn symud i Ysgol Griffith Jones neu Ysgol Hafodwenog o 1 Ionawr 2027 ymlaen.
Byddai disgyblion Ysgol y Fro yn symud i Ysgol y Dderwen.
Yn ôl adroddiadau a gafodd eu cyflwyno i’r Cabinet, mae’r ddwy ysgol yn wynebu heriau gan gynnwys nifer isel o ddisgyblion, nifer uchel o leoedd gwag yn yr ysgolion a phwysau ariannol.
Mae’r cyngor hefyd yn dweud bod nifer o blant sy’n byw yn nalgylchoedd yr ysgolion yn mynychu ysgolion eraill, ac mai prin yw’r tebygolrwydd y bydd niferoedd yn cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf.
'Cau'r drws'
Wrth gyflwyno’r adroddiadau, dywedodd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Addysg, fod yr awdurdod yn “cydnabod bod hi’n benderfyniad anodd i bawb”.
Ychwanegodd fod y penderfyniad wedi ei wneud “er budd hir dymor dysgwyr Sir Gaerfyrddin”.
“Mae hyn yn cyd-fynd â chyfrifoldeb yr awdurdod i ddarparu addysgu o ansawdd uchel ar hyd y sir,” meddai.
Wrth drafod Ysgol Gynradd Meidrim, cododd y Cynghorydd Jean Lewis bryderon am effaith y cynnig ar gyd-bwysedd oedran y gymuned.
Mae’r Cynghorydd Lewis yn cynrychioli ward Trelech ar ran Plaid Cymru.
“Nid adeilad ydych chi’n cau, ond cau’r drws ar ddyfodol cymuned,” meddai.
“Mae’r ysgol hon yn bwysig, mae’n galon i’r gymuned, mae’n le mae’r Gymraeg yn fyw yn ddyddiol.”
Ychwanegodd fod pobl leol wedi bod yn angerddol yn eu hymateb i’r cynnig, a mynegodd bryder y byddai’r pentref yn colli canolbwynt pwysig i’r gymuned.
Mae Cyngor Sir Gâr yn cael ei arwain gan Blaid Cymru.
Mae ymgyrchwyr sy’n ceisio achub Ysgol Gynradd Meidrim hefyd wedi cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y cyngor ynghylch y broses ymgynghori.
Maen nhw’n honni bod y broses yn anheg, ac nad yw’r cyngor wedi bod yn barod i ystyried opsiynau eraill ar gyfer dyfodol yr ysgol.
Y cam nesaf fydd cyhoeddi’r hysbysiadau statudol, gan agor cyfnod gwrthwynebu ffurfiol o 28 diwrnod.
Bydd adroddiad pellach wedyn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ac i’r cyngor llawn cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.
