Robin Evans, y cerddor a'r cynhyrchydd teledu, wedi marw'n 72 oed

Robin Evans

Mae Robin Evans, aelod o'r band poblogaidd Mynediad am Ddim a chynhyrchydd teledu llwyddiannus yn ystod ei yrfa, wedi marw'n 72 oed.

Yn enedigol o Bencaenewydd yng Ngwynedd, fe wnaeth gyfraniad sylweddol i fyd cerddoriaeth a theledu yng Nghymru yn ystod ei fywyd.

Cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Glan y Môr ym Mhwllheli, cyn symud i'r coleg ger y lli yn Aberystwyth fel myfyriwr.

Roedd yn un o aelodau gwreiddiol y band Mynediad am Ddim, gafodd ei ffurfio gan chwech o fyfyrwyr yn y brifysgol ym 1974.

Y chwech oedd Robin Evans, Emyr Wyn, Mei Jones, Iwan Roberts, Graham Pritchard a Dewi Jones.

Fe ymunodd Emyr Huws Jones flwyddyn yn ddiweddarach i gwblhau'r band.

Aeth Mynediad am Ddim ymlaen i recordio rhai o'r caneuon mwyaf cofiadwy a phoblogaidd yn y Gymraeg, gan gynnwys 'Ceidwad y Goleudy', 'Cofio dy Wyneb', 'Hi yw fy Ffrind', 'Mi ganaf gân' a 'Wa McSbredar'.

Gwaddol ym myd teledu

Fe adawodd Robin Evans waddol sylweddol ym myd teledu hefyd - yn gyntaf gyda chwmni Ffilmiau'r Nant ac yn ddiweddarach gyda chwmni Rondo lle'r oedd yn gadeirydd pan gafodd y cwmni ei ffurfio yn 2008.

Mae'r cwmni wedi cynhyrchu rhai o'r rhaglenni mwyaf poblogaidd yn Gymraeg, gan gynnwys y gyfres ddrama Rownd a Rownd a Sgorio. Mae gan y cwmni dair swyddfa yng Nghymru.

Mae'n gadael ei wraig Heulwen, a dau o blant, Llio a Huw.

Image
ROR
Fe wnaeth cyfres boblogaidd Rownd a Rownd, yr oedd Robin Evans yn ganolog i'w llwyddiant, ddathlu 30 o flynyddoedd y llynedd.

Yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth, dywedodd Bedwyr Rees, Uwch Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Cwmni Rondo fod pawb sydd wedi gweithio ar Rownd a Rownd dros gyfnod y blynyddoedd "yn ddyledus i weledigaeth a mentergarwch Robin a’i gyd-gynhyrchydd Sue Waters wrth sefydlu y gyfres arbennig hon. 

"Robin hefyd oedd y gyriant y tu ôl i sefydlu y gyfres Sgorio, gan ddod â’r gorau o bêl-droed Ewropeaidd i’n cartrefi ar ddiwedd yr 80au, a’r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Hyn pan nad oedd darpariaeth o’i fath i’w gael yn nunlle arall, a phobl ar y ffîn yn troi eu êrials i gyfeiriad Cymru i gael gwylio talentau’r cyfandir. 

"Dan ei arweiniad, fe fathwyd terminoleg a geirfa newydd i’r iaith, er mwyn gallu cyfleu bwrlwm y gemau drwy gyfrwng Cymraeg naturiol a dealladwy. Gwaith cwbl arloesol oedd yn nodweddu ei ddewrder a’i ddycnwch."

Ychwanegodd: "Roedd yn credu yn sylfaenol yn S4C fel arf ym mrwydr yr iaith, a hynny drwy beidio â bod yn uchel-ael, ond ychwaith heb ildio i fratiaith, gan brofi bod y Gymraeg yn iaith gyfoes, pob-dydd, sydd yn gallu ymdopi ag unrhyw sefyllfa.

"Bu’n newyddiadurwr a darlledwr a bu’n gweithio ar nifer dirifedi o raglenni teledu ym mhob genre cyn canolbwyntio gan fwyaf ar ddrama. Roedd hefyd wrth gwrs yn leisydd gyda Mynediad am Ddim, un o fandiau poblogaidd mwyaf dylanwadol yr hanner canrif ddiwethaf. Mae ei waddol yn sylweddol ac eang.

"Mae hon yn ergyd bersonol i nifer ohonom, ond dyma ergyd hefyd i Gymru ac i’r iaith Gymraeg.

"Ar ran Rownd a Rownd, dyma yrru ein cydymdeimlad oll at y teulu i gyd, gan ddiolch i Robin am ei gyfraniad rhyfeddol. Bydd coffa da amdano."

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Roedd Robin Evans fel dewin, yn troi popeth roedd yn gyffwrdd i aur. O’r bandiau cerddorol rhyfeddol o boblogaidd i gynhyrchiadau teledu di-rif dros ddeugain mlynedd. 

"O bosib ei waddol mwyaf yw’r gyfres Rownd a Rownd sydd wedi dod a gymaint o fwynhad i genhedlaethau. 

"Trwy weithio efo fo deuthum i adnabod y cymeriad cynnes oedd mor barod i dynnu coes gyda hiwmor sych ond sylw at fanylder yn ei gynhyrchiadau o’r radd flaenaf. Dysgais dipyn ganddo. Roedd ei ddewrder at y diwedd yn rhyfeddol a nodweddiadol o’i gymeriad. Cofion annwyl at Heulwen, Llio a Huw.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.