Cam ymlaen i gynllun ar gyfer adeilad newydd i ddisgyblion Ysgol Heol Goffa yn Llanelli
Mae Cabinet Cyngor Sir Gâr wedi rhoi cefnogaeth i gynllun i adeiladu ysgol arbennig newydd ar gyfer disgyblion Ysgol Heol Goffa yn Llanelli.
Mewn cyfarfod ddydd Mercher, fe gytunodd aelodau’r Cabinet yn unfrydol i symud ymlaen â’r cynnig i adeiladu’r ysgol ar safle newydd, gyda lle i 150 o ddisgyblion.
Mae’r penderfyniad yn dilyn ymgyrch hir gan rieni yn galw am adeilad newydd i’r ysgol.
Mae’r penderfyniad yn golygu y bydd y cyngor yn cynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig.
Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.
Mae Ysgol Heol Goffa yn darparu addysg ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae 132 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol ar hyn o bryd.
Dywedodd y cyngor fod yr adeiladau presennol mewn cyflwr gwael ac nad ydynt yn addas ar gyfer anghenion y disgyblion.
Wrth drafod y cynnig, dywedodd Glynog Davies, Aelod y Cabinet dros Addysg, fod y “cynllun yn un da”.
Y gobaith yw y byddai disgyblion yn gallu symud i’r ysgol newydd ym Medi 2029.
Byddai’r cynllun yn dibynnu ar sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru i dalu am 75% o’r gost, gyda’r cyngor yn talu’r gweddill.
Cafodd cynllun blaenorol ar gyfer ysgol newydd gyda lle i 120 o ddisgyblion ei atal yn 2024 oherwydd pwysau ariannol.
Yn dilyn hynny, fe wnaeth y cyngor gomisiynu adolygiad annibynnol o’r ddarpariaeth.
Daeth yr adolygiad i’r casgliad mai ysgol newydd gyda lle i 150 o ddisgyblion fyddai’r dewis gorau.
