Sir Gâr: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw 60 oed
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth sydyn menyw 60 oed yn Sir Gâr.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw am tua 19:10 nos Wener gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dilyn marwolaeth y fenyw mewn tŷ ar Ffordd Llandeilo yn Cross Hands.
Mae ymchwiliad wedi’i lansio i ganfod amgylchiadau ei marwolaeth, sy’n cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd.
Cafodd dyn 63 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae teulu'r fenyw wedi cael gwybod am ei marwolaeth ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rebecca Thomas: “Yn gyntaf oll, mae fy meddyliau gyda’r teulu yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.
“Mae swyddogion wedi bod yn yr ardal yn cynnal ymholiadau ymchwilio, ac rwy’n deall yn iawn y gallai hyn fod wedi achosi pryder yn y gymuned.
“Digwyddiad unigol yw hwn, ac nid oes unrhyw bryder ehangach am ddiogelwch y cyhoedd.
"Bydd y gymuned leol yn parhau i weld mwy o swyddogion yn yr ardal tra bod ein hymchwiliad yn mynd rhagddo.
“Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ditectifs gyda’u hymchwiliad gysylltu â ni.”