Timau achub yn chwilio am oroeswyr daeargryn pwerus yn Indonesia
Mae timau achub yn Indonesia wedi bod yn chwilio am oroeswyr daeargryn mawr a laddodd o leiaf 47 o bobl.
Fe darodd y daeargryn, a oedd â chryfder o 7.7 ar y raddfa Richter, ynys Flores ychydig cyn 05:00 amser lleol ddydd Sadwrn (22:00 amser Cymru ddydd Gwener) ar ddyfnder o 15km, yn ôl asiantaeth meteoroleg a geoffiseg Indonesia.
Yn ôl adroddiadau cafodd mwy na 900 o gartrefi a channoedd o adeiladau eraill eu difrodi'n ddifrifol gan y daeargryn.
Roedd 341 o ôl-gryniadau mewn ardaloedd mynyddyig ac anghysbell hefyd.
Nid yw maint llawn y difrod yn glir eto, ac roedd adroddiadau am ail ddaeargryn â chryfder o 6.9 ar y raddfa Richter ym mhen arall Indonesia.
Dywedodd yr awdurdodau yn Indonesia fod mwy na 5,000 o bobl yn parhau mewn llochesau a bod 10,500 o becynnau cymorth wedi'u hanfon i'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.
Mae Indonesia yn agored i ddaeargrynfeydd a gweithgaredd folcanig, gan ei bod yn gorwedd ar hyd y man lle mae tri prif blât tectonig yn cwrdd.
Llun: Facebook/BNPB