Yma o hyd: Y caffi sy'n ffynnu ar Stryd Fawr Bangor ers bron i ganrif

Yma o hyd: Y caffi sy'n ffynnu ar Stryd Fawr Bangor ers bron i ganrif

Mae perchennog caffi teuluol sydd wedi bod yn rhan o Stryd Fawr Bangor ers 92 mlynedd yn dweud ei fod yn falch bod y busnes yn parhau i ffynnu er gwaethaf “heriau” i fusnesau’r ddinas.

Ers 1934, mae Caffi Penguin Antoniazzi’s wedi bod yn bwydo thorri syched pobl y ddinas a “phobl o ar draws y byd”.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddosddiad o dros £600,000 er mwyn adfywio canol y ddinas.

Bydd tasglu hefyd yn cael ei sefydlu yn edrych yn benodol ar sut i gefnogi dyfodol canol trefi Cymru. 

Ond mae un busnes wedi goroesi pob her ers degawdau, sef caffi Antoniazzi’s.

Dywedodd Nick Antoniazzi, sydd yn rhan o drydedd cenhedlaeth y teulu i redeg y caffi: “Mae gennym ni gwsmeriaid ffyddlon yma.

“Mae teuluoedd Bangor yn dod yma bob dydd, yn enwedig yn y bore, dod yma am goffi a sigarét. Maen nhw di bod yn gefnogol iawn dros y blynyddoedd. Mae pobl Bangor yn bobl dda.”

Image
Antoniazzi
Fe wnaeth y Caffi Antoniazzi agor yn 1934

O’r Ail Ryfel Byd i gyfnod euraidd y stryd fawr, i gyfnod y pandemig Covid - mae arwydd y pengwin wedi bod yn olygfa gyfarwydd i ymwelwyr i’r ddinas.

Symudodd y teulu o Bardi yng ngogledd Yr Eidal, i Lundain ac yna i Gymru yn y 1930au cynnar.

Fe agorodd aelodau eraill o'r teulu gaffis ym Mhont-y-pŵl, Aberystwyth a Chroesoswallt, ond ym Mangor yr ymgartrefodd taid a nain Nick, Geovanni a Rosa.

Gyda’r Eidal mewn rhyfel â Phrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn rhaid newid enw’r busnes o Gaffi Antoniazzi i Gaffi Pengwin, er mwyn cuddio treftadaeth Eidaleg ei berchnogion. Ond roedd na waeth i ddod i’r teulu.

Image
Cart Hufen Iâ
Mae hen gart hufen iâ y caffi bellach yn rhan o Amgueddfa Werin Sain Ffagan 

“Cafodd fy nhaid ei gymryd o’r caffi yma, a’i symud i wersyll carcharorion rhyfel, ar Ffordd y Traeth ym Mangor. Ac o fan ‘na aeth i wersyll mawr i garcharorion rhyfel ar Ynys Manaw, lle wnaeth o dreulio tua dwy flynedd.”

Yn fam ifanc i dri o blant, roedd yn rhaid i Rosa barhau i redeg y busnes heb ei gŵr. Roedd ei brofiadau’n ystod y rhyfel wedi “effeithio’n fawr” ar Geovanni ar ôl iddo ddychwelyd i redeg y caffi, meddai Nick.

Bu farw Geovanni yn 1961, ac fe wnaeth Rosa barhau i redeg y caffi tan ei hymddeoliad. 

Daeth y caffi i ddwylo aelodau eraill o’r teulu wedi hynny, nes i rieni Nick, Eugenio a Linda, symud o Aberystwyth i Fangor thua hanner canrif yn ôl.

Image
Nick Antoniazzi
Nick Antoniazzi

Daeth y busnes i ddwylo trydedd genhedlaeth y teulu yn y 1990au cynnar, pan gymerodd Nick yr awenau, sydd yn parhau yn ei ddwylo hyd heddiw.

“Roedd y Stryd Fawr yn le gwahanol yr adeg yna, efo siopau fel Wartski’s yn yr hen ddyddiau,” meddai.

“Roedd Bangor yn le mor fywiog...hyd at tua 2010 rili, a dyna pa bryd wnaeth pethau ddechrau newid. Fel busnes rŵan, mae’n anodd."

Ychwanegodd Claire Williams, sydd wedi gweithio yn y caffi ers 24 mlynedd: “Mae’n anodd achos mae llai o bobl yn dod ac mae shops wedi mynd

“Mae 'na regulars yn dod yn y bora yn gal coffi a pethau ond mae’n ddistaw. Mae’n drist.”

Image
Claire Williams
Claire Williams

Dywedodd Nick: “Mae pobl yn rhedeg Bangor i lawr weithiau, ond pobl Bangor sydd wedi bod yn cadw ni i fynd ers cenedlaethau a chenedlaethau. A phobl ar eu gwyliau, a phobl o ar draws y byd dwi wedi dod ar eu traws.”

Dywedodd un o gwsmeriaid y siop, Avril Williams, sydd wedi bod yn cwrdd â’i ffrindiau am goffi yn Antoniazzi’s ddwywaith yr wythnos ers dros 20 mlynedd: 

“Da ni di colli gymaint oedd ar y Stryd Fawr yma rili. Fysa ni’n lost os ‘sa hwn ddim yma. Dwi’m yn gwybod lle sa’ ni’n mynd. 

“Oni yma pan ni’n hogan fach efo mam am ginio, a dros y blynyddoedd, dwi di dod i nabod mam a dad Nick. 

“Da ni yma rŵan bob wythnos, da ni’n nabod pawb ag os da ni’m yn nabod nhw, da ni’n tynnu nhw i fewn efo ryw fath o fwydro.

Image
Avril Williams
Avril Williams

“Da ni’n trio cadw busnesau bach i fynd a bod yn ffyddlon.”

Mae Nick yn credu mai’r caffi yw’r busnes sydd wedi goroesi hiraf ar Stryd Fawr y ddinas, gyda siop sglodion Valla’s hefyd yn bresenoldeb cyson ers dros 85 mlynedd.

“Mae’n rhywbeth dwi’n falch iawn ohono. 

"Mae fy rhieni yn hefyd, dwi’n meddwl - ond ella bod nhw'n fwy shocked bod ni dal i fynd, efo’r ffordd mae pethau!

“Mae ‘na heriau, ond fel dwi bob tro’n ei ddweud, ti’n gorfod ‘keep on going’, a churo’r heriau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.