Criw o ffrindiau'n cwblhau her er cof am Mathew Hardy
Mae criw o ffrindiau wedi cwblhau Her y Tri Chopa er cof am ddyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ym mis Rhagfyr y llynedd.
Bu farw Mathew Hardy, 34 oed o Bwllheli, mewn gwrthdrawiad ger Porthmadog.
Mae John Pugh, Arwel Thomas, Deio Brunelli, Steve Jones, Rhys Roberts a Dafydd Anwyl wedi sefydlu cronfa er cof am Mathew, ac yr wythnos hon, mae'r chwech wedi bod yn gwneud her y Tri Chopa.
Mae'r criw, yn ogystal â theulu a ffrindiau Mathew, wedi cerdded mynyddoedd Ben Nevis, Scafell Pike a'r Wyddfa, gan feicio rhwng y tri mynydd dros gyfnod o wythnos - taith o dros 500 milltir.
Erbyn dydd Sul roedd y gronfa codi arian wedi cyrraedd dros £28.000.
Elusennau
Mae'r criw yn codi arian at sawl elusen wahanol, gan gynnwys un sydd yn cefnogi pobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol neu wedi colli rhywun mewn gwrthdrawiad ffordd, ac un sy’n cefnogi dynion sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos.
Fe wnaeth y criw gwblhau'r mynydd cyntaf, Ben Nevis, ddydd Sul diwethaf, gan ddringo mynydd Scafell Pike yn Ardal y Llynnoedd ddydd Mercher.
Mae'r criw wedi bod yn seiclo rhwng bob mynydd, ac wedi seiclo ar hyd arfordir Cymru ddydd Gwener i gyrraedd Llanberis.
Fore Sadwrn, fe wnaeth y criw yn dringo'r Wyddfa cyn seiclo i Bwllheli ar gyfer diwedd eu taith.