Milwyr a chriwiau tân 'o bob cwr o Brydain' yn cynorthwyo yn ne Cymru

tânMOD1.

Mae milwyr a chriwiau tân "o bob cwr o Brydain" yn cynorthwyo yn ne Cymru gyda'r ymdrechion i reoli nifer o danau gwyllt sydd wedi bod yn llosgi yn y rhanbarth dros y dyddiau diwethaf.

Mewn diweddariad, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y statws 'digwyddiad mawr' ('major incident') yn parhau mewn grym.

Roedd swyddogion y gwasanaeth wedi ymateb i 14 o danau gwyllt ddydd Sul, "gyda diffoddwyr tân yn gweithio gyda phroffesiynoldeb a dewrder eithriadol i ddiogelu cymunedau, cartrefi, busnesau, bywyd gwyllt a'r amgylchedd".

Image
MOD3

Ychwanegodd datganiad y gwasanaeth tân fod dros 110 aelod o'r lluoedd arfog yn helpu gyda'r gwaith o reoli'r fflamau, a chriwiau tân o bob cwr o Brydain yn helpu hefyd.

"Mae ein hymateb parhaus yn parhau i gael ei gefnogi gan gymorth gan wasanaethau tân ac achub cyfagos ledled y DU. 

"Yn dilyn ein cais am Gymorth Milwrol, mae gennym bellach dros 110 o filwyr ar y ddaear yn cynorthwyo i greu bylchau tân drwy gloddio ffosydd a chlirio llystyfiant. 

"Maent hefyd yn cynorthwyo gyda logisteg, gan gynnwys cludo llawer o ddŵr diffodd tân i safle'r digwyddiad."

Image
MOD2

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân Adam Openshaw o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Hoffwn ddiolch i griwiau tân o bob rhan o'r DU sydd wedi dod i'n cynorthwyo, ochr yn ochr â'n partneriaid asiantaethol, gwirfoddolwyr a'r lluoedd arfog. 

"Mae ymdrechion cyfunol pawb sy'n rhan o'r digwyddiad mawr hwn yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gadw pobl yn ddiogel yn ystod yr amgylchiadau eithriadol hyn.

"Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod heriol a phryderus i lawer o bobl. 

"Hoffwn ddiolch i'n cymunedau am eu cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod hwn. 

"Gallwch fod yn sicr ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu ein cymunedau a chadw pobl De Cymru yn ddiogel."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.