S4C i ddarlledu’n fyw o Gemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf

Gemau'r Gymanwlad

Bydd S4C yn darlledu’n fyw o Gemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf eleni.

Mae Commonwealth Sport wedi cyhoeddi heddiw y bydd S4C yn darparu darllediadau byw o'r gemau yn Glasgow.

Bydd y darllediad yn rhedeg o ddydd Gwener 24 Gorffennaf tan ddydd Sul 2 Awst, ac yn cynnwys deg diwrnod o gystadlu ar draws 10 camp.

Bydd y bartneriaeth yn sicrhau bod cynulleidfaoedd ledled Cymru “yn gallu dilyn pob eiliad o daith Tîm Cymru yn Glasgow eleni”, meddai’r darlledwr.

Dywedodd Katie Sadleir, Prif Weithredwr Commonwealth Sport, bod Gemau’r Gymanwlad yn unigryw gan ddod ag athletwyr a chymunedau ynghyd o bob cwr o’r 74 gwlad a thiriogaeth.

“Mae’n wych y bydd cynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg yn gallu profi cyffro, drama ac ysbrydoliaeth y Gemau yn fyw yn eu hiaith eu hunain am y tro cyntaf,” meddai.

“Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wneud Glasgow 2026 mor hygyrch a chynhwysol â phosib, gan sicrhau y gall mwy o bobl gysylltu â’r eiliadau sy’n gwneud Gemau’r Gymanwlad mor arbennig.”

Mae Cymru yn un o chwe gwlad yn unig sydd wedi cystadlu ym mhob un o’r Gemau ers iddynt ddechrau yn 1930 ac mae S4C yn falch iawn o bartneru â Thîm Cymru.

‘Cefnogi’

Lauren Salter fydd yn cyflwyno'r darllediad ar S4C ynghyd ag Alun Williams fydd yn gohebu’n fyw o Glasgow bob nos.

Dywedodd Lauren Salter: "Mae'n fraint i gyflwyno darllediad S4C o Gemau'r Gymanwlad. 

“Am anrhydedd i'n hathletwyr ar dop eu gêm i gynrychioli eu gwlad ar lwyfan y byd. Dwi’n edrych ymlaen at wylio Tîm Cymru yn dod â'r medalau adref a gwneud Cymru yn falch."

Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Mae S4C yn falch iawn o ddarlledu'n fyw o Gemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf. 

“Fel yr unig ddigwyddiad chwaraeon aml-gamp lle mae Cymru'n cystadlu fel Cymru, rydym yn falch i gefnogi Tîm Cymru yn Glasgow. 

“O’r pwll i’r trac, caiff ein gwylwyr brofi gwefr y cystadlu ar S4C, Cartref Chwaraeon Cymru."

Bydd Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026 ar S4C yn cael eu cynhyrchu gan Sunset and Vine.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.