Diflaniad Ricky Harris: Arestio dyn ar amheuaeth o rwystro claddedigaeth gyfreithlon

Ricky Harris

Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddyn sydd ar goll wedi arestio dyn arall ar amheuaeth o rwystro claddedigaeth gyfreithlon.

Cafodd Ricky Harris ei weld ddiwethaf ar deledu cylch cyfyng tua 14.20 ar 18 Tachwedd 2023, ym Maes-y-Deri, Aberdâr.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dyn 41 oed o Aberpennar ar amheuaeth o rwystro claddedigaeth gyfreithlon a hefyd gwyrdroi cwrs cyfiawnder mewn cysylltiad â’r diflaniad.

Mae’n parhau yn nalfa’r heddlu ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Mae swyddogion yn chwilio safle diwydiannol y Phurnacite yn Abercwmboi, medden nhw.

Mae teulu Ricky wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac maen nhw’n parhau i gael cefnogaeth gan Heddlu De Cymru, medden nhw.

“Rydyn ni’n disgwyl y bydd [y gwaith chwilio] yn cymryd peth amser i’w gwblhau, ond rydyn ni’n gwneud ein gorau i gyfyngu ar unrhyw darfu ar y rheiny sy’n defnyddio’r mannau cyhoeddus,” medden nhw.

“Rydyn ni’n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld Ricky neu siarad ag ef yn y dyddiau neu’r wythnosau cyn ei ddiflaniad, neu unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth arall am ei leoliad, i gysylltu â Heddlu De Cymru. 

“Fe allai’ch gwybodaeth chi wneud gwahaniaeth mawr yn yr ymchwiliad parhaus hwn.”

Cysylltwch â’r heddlu gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300394323.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.