Carcharu dyn 'seicig' o Fae Colwyn am ymosod yn rhywiol ar ddwy fenyw

John Starkey

Mae dyn sydd wedi honni ar y teledu ei fod yn seicig wedi ei garcharu am bedair blynedd a phum mis yn Llys y Goron Caernarfon am ymosodiadau rhywiol.

Roedd  John Starkey, 74, o Fae Colwyn wedi pledio’n euog i dri o bum cyhuddiad o ymosod yn rhywiol yn ei erbyn. Fe gafodd ei ble ei dderbyn gan erlynwyr.

Dywedodd yr erlynydd Elen Owen fod dynes yn ei 20au wedi bod mewn dau ddarlleniad gyda Starkey pan oedd yn gweithio yn Wolverhampton, ac iddo awgrymu “glanhâd ysbrydol”.

Ychwanegodd fod y seicig honedig wedi cyfarwyddo’r dioddefwr i dynnu ei dillad, ond iddo ei cham-drin yn rhywiol. 

Cafodd y ddynes ei hannog wedyn i fynd i “gyfarfod” yn Llundain. Mewn ystafell mewn gwesty, fe ymddangosodd yntau mewn siorts bocsers a gŵn cyn ei chyffwrdd.

Aeth at yr heddlu yn 2018 a chafodd ei dillad isaf eu hanfon i’w harchwilio’n fforensig. Fodd bynnag, roedd Heddlu’r Met fel petaent wedi cau’r ymchwiliad, meddai Miss Owen.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd rhywun oedd ar wyliau yn Llandudno, lle’r oedd gan Starkey siop, “ymgynghoriad” gydag ef. 

Cododd pwnc “glanhau’r awra” ac fe gafodd tylino ei argymell. “Fe ddywedodd wrthi am dynnu ei dillad nes ei bod yn ei dillad isaf,” meddai’r bargyfreithiwr.

Fe gafodd y ddynes ei tharo ar ei phen-ôl ac roedd yn tybio bod hynny’n rhan o’r broses. Ond crwydrodd dwylo Starkey ymhellach.

Cafodd yr heddlu wybod yn ddiweddarach.

Disgrifiodd y dioddefwr cyntaf iddi gael ôl-fflachiau a theimlo fel ei lladd ei hun. Disgrifiodd yr ail ddynes ei phrofiad fel un “trawmatig a gofidus”.

Dywedodd y bargyfreithiwr amddiffyn Robert Fitt fod Starkey o gymeriad da blaenorol, ond ei fod â phroblemau iechyd a’i fod yn wynebu’r posibilrwydd o farw yn y carchar.

Ychwanegodd Mr Fitt bod y troseddu “yn gwbl groes i’w gymeriad”.

Mae Starkey yn honni ei fod wedi ymddangos ar This Morning, LK Today, GMTV, The Paul O’Grady Show ac ar y radio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.