Casnewydd: Gŵyl Gymraeg yn gobeithio 'newid agwedd pobl' cyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd

Dafydd Duggan

Mae trefnydd gŵyl Gymraeg yng Nghasnewydd yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn gallu "newid agwedd pobl" tuag at y Gymraeg yn y ddinas cyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd â’r ddinas y flwyddyn nesaf.

Bydd Gŵyl Newydd yn cael ei chynnal ar faes Rodney Parade yn y ddinas ddydd Sadwrn, a bydd y digwyddiad eleni yn fwy "uchelgeisiol" nag erioed.

Bydd perfformiadau gan Mei Gwynedd, Yr Argraff ac ysgolion lleol, gyda gweithdai ac ardal chwaraeon ar gael i blant hefyd.

Menter Iaith Casnewydd sydd wedi trefnu'r ŵyl, ac o dan arweiniad ei phrif weithredwr, Dafydd Duggan, a'r gobaith yw "croesawu torf newydd o bobl" i ddigwyddiad Cymraeg yn y ddinas cyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd yn 2027.

"Rydym yn gyffrous iawn am yr ŵyl eleni, ac ein slogan yn y swyddfa yw 'Gŵyl Newydd ar ei newydd wedd' - a dyna beth yw e eleni," meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n creu digwyddiadau sylweddol yn y Gymraeg yng Nghasnewydd oherwydd mae’r Urdd rownd y gornel, ac mae’n bwysig bod pobl yn ymgyffred â’r naws a’r ymdeimlad o ddathlu’r Gymraeg yn y de-ddwyrain.

“Mae’n bwysig bod pobl sy’n gallu’r Gymraeg yn cael diwrnod i’w fwynhau yng Nghasnewydd, ond yn bersonol dwi’n meddwl ei fod e’n bwysig croesawu torf newydd o bobl o gefndiroedd gwahanol i fwynhau hefyd.

“Dwi’n credu bod Gŵyl Newydd yn ddiwrnod perffaith i ddysgwr neu rywun sy’n Cymraeg-curious, fel dwi’n licio eu galw nhw, y rhai sydd ddim yn siŵr am ddefnydd y Gymraeg ond sydd eisiau cael profiadau gyda’r iaith."

Image
Fel arfer mae Gŵyl Newydd yn cael ei chynnal yn Theatr Glan yr Afon
Fel arfer mae Gŵyl Newydd yn cael ei chynnal yn Theatr Glan yr Afon

Mae tua 13,000 o bobl yn medru'r Gymraeg yng Nghasnewydd yn ôl ffigurau Cyfrifiad 2021.

Yn 2022, fe wnaeth Cyngor Casnewydd gyhoeddi cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, gydag addysg yn ganolog i'r cynllun.

Erbyn hyn, mae pedair ysgol gynradd Gymraeg ac un ysgol uwchradd wedi agor, a thrwy agor y bedwaredd ysgol gynradd ym mis Medi 2021, roedd Cyngor Casnewydd yn gallu cynnig 50% yn fwy o leoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg.

Er bod mwy o blant yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas, mae Dafydd Duggan yn dweud bod "newid agwedd" at yr iaith yn her y mae’n ei hwynebu bob dydd.

“Newid agwedd yw’r un o’r pethau mwyaf heriol dwi’n wynebu yn ddyddiol, pobl yn gofyn beth yw’r menter, be' ni’n neud a gorfod egluro ein pwrpas ond hefyd beth yw pwrpas y Gymraeg," meddai. 

“Fi'n credu bod yr Urdd yn dod i Gasnewydd yn anhygoel, mae mynd i fod mor gyffrous yma mewn flwyddyn. 

"Ond dwi’n meddwl bod dyletswydd arnom yn y fenter sydd yn browd o allu siarad Cymraeg, i godi ymwybyddiaeth a tynnu pobl eraill gyda nhw.

“Mae’r Urdd yn dod yn rhoi hwb i ni, ond mae dyletswydd arnom i gynyddu ymwybyddiaeth o’r Urdd dros y flwyddyn nesaf."

'Ffenest siop'

Tua 5% o boblogaeth Casnewydd sy’n siarad Cymraeg, ac yn ôl cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Bro Wenynen 2027, mae angen dangos bod y Gymraeg yn "iaith fyw" yn y ddinas.

“Yn aml pan mae 'na siaradwyr newydd yn dod i ddysgu’r iaith mewn dosbarth, yn amlwg beth sydd angen wedyn yw’r cyfle iddyn nhw ymarfer a siarad, clywed ac yn teimlo bod nhw’n rhan o rywbeth mwy 'na jyst dosbarth," meddai Elin Maher wrth Newyddion S4C.

Image
Elin Maher yw cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd 2027
Elin Maher yw cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd 2027

Ychwanegodd Elin: “Ma’r Gymraeg yn iaith sy’n cael ei defnyddio o ddydd i ddydd, a ni ishe amlygu hwnna mewn gŵyl fel hon, bod y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol.

“Mae’n ffenest siop i Eisteddfod yr Urdd flwyddyn nesa heb os.

“Byddwn yn teimlo’r ymdeimlad lleol yna ar raddfa lai ac wrth gwrs mi fyddwn ni fel criw pwyllgor gwaith yno yn codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth ynghylch yr eisteddfod.

“Ma’r gwyliau dros yr haf yn bethau hanfodol pwysig i fod yn ffenest siop ar gyfer yr eisteddfod blwyddyn nesa'.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.