Rheithgor yn ystyried eu dyfarniad mewn achos treisio honedig yn ystod Eisteddfod Boduan

Emlyn Jones yn cyrraedd y llys
Emlyn Jones

Mae'r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad mewn achos o dreisio honedig a ddigwyddodd mewn pabell ger safle Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan yn 2023.

Wrth roi tystiolaeth ddydd Mercher, fe wnaeth y diffynnydd Emlyn Jones wadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae Mr Jones, sy'n 27 oed ag yn dod o Gapel Curig yn Sir Conwy, yn wynebu pedwar cyhuddiad, sef treisio, tagu bwriadol, ymosod drwy dreiddio (‘assault by penetration’) ac un achos o ymosod yn rhywiol.

Cafodd y rheithgor eu hanfon i ystyried eu dyfarniad gan y Barnwr Nicola Jones am 15:05.

'Achos pwysig'

Wrth gloi achos yr erlyniad yn erbyn Emlyn Jones yn Llys y Goron Caernarfon ar bedwerydd diwrnod yr achos, dywedodd y bargyfreithiwr Siôn ap Mihangel wrth y rheithgor fod yr achos yn un pwysig.

Awgrymodd mai sail holl amddiffyniad Mr Jones oedd mai celwydd oedd stori'r ddynes sy'n honni ei fod wedi ei threisio a'i thagu.

"Yr anhawster gyda'r ddadl yma yw, os ydyw'n gywir, roedd (enw'r ddynes) wedi creu'r honiad bron iawn yn syth," meddai.

"Nid un celwydd fyddai, ond nifer fawr ohonynt."

Dywedodd wrth aelodau'r rheithgor y dylen nhw fod yn ofalus wrth ystyried yr hyn yr oedd yr achwynydd wedi ei wneud cyn ag ar ôl y digwyddiad honedig.

"Nid oes ffordd gywir neu anghywir i ymateb yn yr amgylchiadau hyn. Mae pobl yn ymateb mewn nifer o ffyrdd gwahanol," meddai.

"Ystyriwch y dystiolaeth ac ystyriwch yr esboniad cyn dod i gasgliad."

Wrth ofyn i'r rheithgor ystyried tystiolaeth cyfaill i Mr Jones oedd yn y babell gydag o a'r achwynydd yn oriau mân bore'r 7fed o Awst 2023 ar gyrion safle'r Eisteddfod, dywedodd Mr ap Mihangel mai "mater i chi ydyw i wneud yr hyn yr ydych yn ei ddymuno gyda'r dystiolaeth yma pan rydych yn ei gymharu gyda'r hyn yr oedd wedi ei ddweud mewn datganiad blaenorol".

"Roedd yno yn ystod rhan gyntaf y digwyddiad," meddai. "Mater i chi yw ystyried beth yr oedd yn gallu ei weld yn y tywyllwch."

'Gwahaniaeth enfawr' mewn tystiolaeth

Dywedodd fod "gwahaniaeth enfawr" yn nhystiolaeth yr achwynydd a thystiolaeth Emlyn Jones.

"Ydych chi'n fodlon fod (enw'r ddynes) yn dweud celwydd?" gofynnodd.

"Beth bynnag ddigwyddodd yn y babell yna yn oriau mân y bore ym mis Awst ym Moduan, fe achosodd rhywbeth iddi adael y lle'r oedd hi i fod i gysgu. 

"Fe achosodd rhywbeth iddi newid ei meddwl a gadael y lle yr oedd hi i fod i gysgu, a chysgu yn y car."

Pam fod hynny wedi digwydd ar ôl cael "rhyw cydsyniol" fel oedd y diffynnydd yn ei honni?

"Ai euogrwydd, neu i ymbellhau ei hun o'r unigolyn oedd wedi defnyddio trais yn ei herbyn?" gofynnodd.

Roedd hi wedi mynd adref yn dilyn yr ymosodiad honedig, cyn dychwelyd i'r Eisteddfod yn ddiweddarach. 

"Sut oedd modd iddi ddatgysylltu ei hun o'r hyn ddigwyddodd?" gofynnodd Mr ap Mihangel.

Cysondeb

Roedd y ddynes wedi dweud wrth dri unigolyn am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad honedig yn y dyddiau canlynol.

"Fe allwch deimlo fod yr achwynydd wedi bod yn gyson yn hynny o beth," meddai Mr ap Mihangel.

"Fe allech chi feddwl mai peth hawdd yw creu celwydd yn y lle cyntaf. Y peth anodd yw ydy ei gynnal. Gafodd hi ei dal allan? Ddywedodd hi un celwydd yn ormod fel i bethau ddymchwel i lawr?

"Neu a wnaeth hi wneud ei gorau yn ei ffordd ei hun i ddarparu disgrifiad manwl o'r hyn ddigwyddodd iddi hi wrth law y diffynnydd?

"Prif nodwedd rhywun sy'n dweud y gwir yw cysondeb ac mae hi wedi bod yn gyson drwy gydol hyn," meddai'r bargyfreithiwr ar ddiwedd ei araith.

Image
Gig Bwncath yn Eisteddfod 2023
Mae'r honiadau yn ymwneud â digwyddiadau ar ôl Gig Bwncath yn Eisteddfod Boduan

Effaith alcohol

Yn ei haraith i gloi achos yr amddiffyniad ar ran Emlyn Jones, dywedodd ei fargyfreithwraig Caroline Rees KC fod angen i'r rheithgor ystyried sut yr oedd alcohol wedi effeithio ar yr achwynydd ar noson y digwyddiad.

A oedd ei phenderfyniadau wedi eu heffeithio gan alcohol, gofynnodd.

Dywedodd bod y ddynes wedi dod i ddifaru yr hyn oedd wedi digwydd yn sydyn iawn.

"Ag yna i ddelio gyda'r edifeirwch a'r cywilydd yna, fe symudodd y bai i ffwrdd ohoni ei hun a'i osod ar Emlyn Jones," meddai.

"Doedd ei chrebwyll efallai ddim mor dda a hynny, meddai hi."

Pwysleisiodd Caroline Rees bod angen i'r rheithgor fod yn gwbl sicr eu barn am yr hyn oedd wedi digwydd.

Awgrymodd bod tystiolaeth yr achwynydd yn anniogel ac nid oedd yn "sefyll i fyny i unrhyw fath o sgriwtini".

"Mae nifer o agweddau o'i thystiolaeth yn taflu amheuaeth go iawn ar pa mor ddibynadwy yw hi fel tyst yn yr achos hwn," meddai.

Dewisiadau

Dywedodd fod yr achwynydd wedi wynebu nifer o ddewisiadau ar noson yr ymosodiad honedig - gan gynnwys mynd i mewn i'r garafán i gysgu.

Dewis arall posib, meddai, oedd gafael yn ei sach gysgu a chysgu yn adlen yn garafán, neu ddweud wrth Emlyn Jones am gysgu yn yr adlen a hithau yn y babell fach.

Ond fe benderfynodd gysgu yn y babell gyda'r ddau ddyn ac roedd yn ymddangos "ei bod yn hapus i fynd i mewn yno a chysgu rhwng y ddau ddyn."

Un peth nad oedd yr achwynydd wedi ei ddweud erioed oedd ei bod hi wedi cusanu Emlyn Jones yn y babell. 

Dywedodd y fargyfreithwraig fod tystiolaeth y dyn arall yn y babell yn awgrymu'n gryf fod y ddynes a'r diffynnydd wedi bod yn cusanu cyn yr ymosodiad honedig.

Os oedd tystiolaeth y dyn arall yn gywir, "beth mae hyn yn ei ddweud i chi am (enw'r ddynes) yn bod yn onest ac agored gyda chi?"

"Pam wnaeth hi gadw'r ffaith fod cusanu wedi bod yn ôl? Mae cyfathrachu rhywiol ar amrantiad yn gwbl gredadwy," meddai.

"Ni allai (Emlyn Jones) fod yn fwy eglur fod y ddynes yn gwybod yr hyn yr oedd hi'n ei wneud a'i bod wedi chwarae ei rhan yn fwy na pharod."

Roedd i fyny'r amddiffyniad i alw'r unig berson arall oedd yn bresennol yn y digwyddiad am gyfnod, meddai. "Peidiwch ag anwybyddu'r ffaith honno," ychwanegodd.

'Canu clychau uchel a chlir'

Wrth drafod y ffaith fod yr achwynydd wedi dychwelyd i'r babell ar ôl i'r dyn arall oedd ynddi adael mewn tymer, dywedodd Caroline Rees KC fod y penderfyniad yma yn "canu clychau yn uchel a chlir".

Oedd ei phenderfyniad i ddychwelyd i'r babell ar ôl ceryddu Emlyn Jones am ei chyffwrdd yn amhriodol y tro cyntaf yn ffaith oedd yn eistedd yn gyfforddus gyda'r rheithgor?

"Dyw popeth y mae hi wedi ei ddweud am hyn ddim yn ffitio at ei gilydd os oedd ei thystiolaeth yn gredadwy," meddai.

"Mae'r pwynt yma yn rhoi mewnwelediad i allu (enw'r ddynes) i wneud pethau i fyny pan mae'n ei gweddu hi i wneud hynny.

"Pan sylweddolodd fod mynd yn ôl i'r babell at y dyn oedd wedi ymosod yn rhywiol arni ddim yn gwneud synnwyr, fe ddywedodd ei bod wedi chwilio am oriadau ei char.

"Y tro cyntaf iddi ddweud nad oedd modd iddi adael y babell achos nad oedd modd iddi ddod o hyd i'w goriadau oedd yn ystod cael ei chroesholi."

Dywedodd y fargyfreithwraig nad oedd yr achwynydd wedi sôn am hyn yn ei chyfweliad gyda'r heddlu.

"Rydym yn awgrymu fod yr anghysondeb yma yn bwysig iawn," meddai.

Image
Llys y Goron Caernarfon
Llys y Goron Caernarfon

Yr ymosodiad honedig

Wrth drafod yr ymosodiad honedig, dywedodd y fargyfreithwraig fod yr achwynydd wedi ei ddisgrifio fel achos o dreisio treisgar.

Dywedodd y ddynes ei bod wedi gweiddi yn uchel dro ar ôl tro ar Emlyn Jones i stopio. 

"Os oedd hyn wedi digwydd fel y mae (enw'r ddynes) yn awgrymu, pam na wnaeth neb glywed hyn yn digwydd?" gofynnodd.

Awgrymodd y byddai ymosodiad treisgar o'r math yma wedi ei glywed gan bobl oedd yn cysgu gerllaw.

"Eto, mae clychau amheuon yn canu," meddai Caroline Rees.

Cysgu yn y car

Aeth ymlaen i ofyn pam fod yr achwynydd wedi dewis cysgu yn ei char yn dilyn yr ymosodiad honedig.

"Ni wnaeth daflu Emlyn Jones allan na dweud wrtho am fynd i ffwrdd," meddai.

"Mae'n ddyn peryglus os yw'r hyn y maen hi'n ei ddweud amdano yn wir, ond fe adawodd hi fo yno."

Awgrymodd y fargyfreithwraig fod "cwmwl o gywilydd" wedi disgyn ar yr hyn ddigwyddodd, a bod y ddynes wedi dewis cysgu yn ei char er mwyn "dianc o sefyllfa afiach".

Gofynnodd pam ei bod wedi dychwelyd i'r Eisteddfod ychydig ddyddiau wedyn, gan fod mewn perygl o weld ei hymosodwr honedig eto?

"Ni wnaeth Emlyn Jones ffoi o'r lleoliad. Aeth i gysgu yn y tryc pick-up. Petai wedi ei threisio a'i thagu fe fyddai wedi ffoi o'r lleoliad," meddai Caroline Rees KC.

Gorffenodd ei haraith drwy atgoffa'r rheithgor fod Emlyn Jones yn dyst credadwy a dibynadwy, a'i fod wedi darparu yr un faint o fanylder ag oedd yr achwynydd wedi ei wneud.

"Os nad ydych yn sicr - dim ond un dedfryd sydd ar agor i chi, a honno yw dieuog," meddai wrth y rheithgor.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.