Dau frawd yn euog o achosi marwolaeth Rhys Jenkins drwy yrru yn beryglus

Rhys Jenkins
Rhys Jenkins

Mae dau frawd wedi eu cael yn euog o achosi marwolaeth dyn o Bowys mewn gwrthdrawiad yn 2024.

Roedd Umar Yusaf, 35 oed, ac Abubakr Yusaf, 31 oed, y ddau o Fanceinion, yn gwadu iddyn nhw achosi marwolaeth Rhys Jenkins drwy yrru'n beryglus ar ffordd yr A483 ym mis Tachwedd 2024.

Cafodd Abubakr Yusuf ei ganfod yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ac achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant.

Fe gafodd Umar Yusuf ei ganfod yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal ac achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal.

Bu farw Rhys Jenkins, 41 oed, o Bowys, yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A483 i鈥檙 de o鈥檙 Trallwng ar 16 Tachwedd 2024.

Cafodd ei fab naw oed, Ioan, hefyd ei anafu鈥檔 ddifrifol yn y digwyddiad.

Fe gafodd Abubakr Yusaf ei gadw yn y ddalfa cyn iddo gael ei ddedfrydu y mis nesaf.

Cafodd ei frawd, Umar, ei ryddhau ar fechn茂aeth gyda chyrffyw dros nos, a dywedodd y Barnwr Timothy Petts ei fod yn "debygol iawn" y bydd yn cael ei ddedfrydu i garchar.

"Mae'n anochel y bydd dedfrydau o garchar," meddai.

"Yn enwedig i Abubakr Yusaf, bydd dedfryd hir am yr hyn y gwnaeth y noson honno."

Roedd y brodyr yn gwadu eu bod yn rasio yn erbyn ei gilydd tra'n teithio o Aberystwyth i Fanceinion.

Clywodd y llys yn ystod yr achos fod y brodyr yn gyrru ceir Audi a BMW rhwng 18:00 a 18:30 pan fu farw Rhys Jenkins.

'Annog'

Wrth amlinellu achos yr erlyniad, dywedodd y bargyfreithiwr David Mainstone fod Abubakr Yusaf wedi colli rheolaeth ar gar BMW ar 么l gyrru鈥檔 gyflym a goddiweddyd yn beryglus.

Dywedodd fod Abubakr Yusaf yn cael ei "annog" gan ei frawd.

Ychwanegodd fod y ddau frawd yn "gyfrifol am y gwrthdrawiad angheuol" hwn.

Cafodd mab Rhys Jenkins, Ioan, ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ar 么l y ddamwain.

Fe gafodd ei daro'n anymwybodol a dioddefodd anafiadau difrifol a treuliodd 10 diwrnod yn yr ysbyty.

Roedd data o'r BMW yn dangos fod Abubakr Yusaf yn gyrru mwy na 63mya pan darodd Rhys Jenkins, meddai Mr Mainstone.

'Dinistriol'

Mewn datganiad ar 么l yr achos, dywedodd gwraig Rhys Jenkins, Carrie, fod marwolaeth ei g诺r wedi bod yn "ddinistriol".

"Ar 么l y dyfarniad, hoffwn ddiolch i'r llys, y rheithgor, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu a phawb oedd yn ymwneud 芒'r achos, gan gynnwys y sawl tyst a ddaeth ymlaen i siarad," meddai.

"Mae colli Rhys mewn ffordd mor annisgwyl a diangen wedi bod yn ddinistriol, ond mae ein ffocws fel teulu wedi bod ar ailadeiladu ein bywydau a gwneud y mwyaf o bob diwrnod, fel y byddai Rhys eisiau, gyda chefnogaeth ein ffrindiau a'r gymuned.

"Rwyf yn gobeithio y bydd y cyhoeddusrwydd ynghylch yr achos yn amlygu i eraill y peryglon o yrru ar gyflymder, ac yn atgoffa pawb bod gan bob un ohonom ddyletswydd wrth yrru."

Bydd Abubakr a Umar Yusuf yn cael eu dedfrydu ar 27 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.