Mwy o arian i ddenu darpar athrawon i hyfforddi yng Nghymru mewn rhai pynciau penodol

streic athrawon

Bydd mwy o arian yn cael ei dalu i annog pobl i hyfforddi fel athrawon mewn meysydd lle mae angen mwy o athrawon ar Gymru, meddai'r llywodraeth.

Bydd y cymelldaliad i hyfforddi athrawon mewn pynciau â blaenoriaeth yn cynyddu o £15,000 i £20,000 o fis Medi 2026.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cyflwyno "cymhelliant mwy cystadleuol" er mwyn denu a chadw mwy o athrawon mewn addysg uwchradd.

Bydd y cynnydd o £5,000 yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu pynciau â blaenoriaeth, gan gynnwys mathemateg, gwyddoniaeth a'r Gymraeg.

Bydd y cymelldaliad ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n dechrau eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd 2026-27, a bydd yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan, bod angen i'r Llywodraeth "sicrhau gweithlu cynaliadwy".

"Rydyn ni'n glir bod angen cefnogi'r gweithlu addysg i gyflawni cenhadaeth ein cenedl ar gyfer addysg, gan godi safonau a darparu'r sylfaen orau i ddysgwyr ar gyfer eu dyfodol," meddai.

"Ochr yn ochr â gwella amodau i athrawon a’u datblygiad proffesiynol, mae’n hanfodol i ni sicrhau gweithlu cynaliadwy ac annog mwy o bobl i ymuno â’r proffesiwn addysgu."

Image
Anna Brychan
 Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan

Pa bynciau sy'n gymwys?

Y pynciau cymwys â blaenoriaeth o fewn addysg uwchradd yw: 

-Bioleg

-Cemeg

-Dylunio a Thechnoleg

-Technoleg Ddigidol a/neu Gyfrifiadureg

-Mathemateg

-Ieithoedd rhyngwladol

-Ffiseg

-Cymraeg

Ychwanegodd Anna Brychan: "Rwy’n falch o allu cyhoeddi cymhelliant mwy cystadleuol fel un o’m camau cyntaf yn fy rôl newydd, ac rwy’n gobeithio adeiladu ar y cynnydd hwn dros y pedair blynedd nesaf.

"Rydyn ni am fanteisio ar y dalent a'r sgiliau sydd gennym yma yng Nghymru i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer addysg, gan sicrhau bod yr arian nid yn unig yn cefnogi pobl i hyfforddi yng Nghymru, ond hefyd yn cadw'r sgiliau hynny er budd dysgwyr ledled Cymru."

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth: "Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i wella addysg ein plant a phobl ifanc, gan roi'r dechrau gorau posib iddynt mewn bywyd a datgloi cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

"Os ydyn ni am godi safonau yn ein hysgolion, mae rhaid i ni fuddsoddi yn ein gweithlu ymroddedig a thalentog hefyd – drwy eu cefnogi a rhoi’r offer sydd eu hangen arnyn nhw, ochr yn ochr â chryfhau’r broses o recriwtio athrawon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.